MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £27,709 - £29,542 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 08 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 Hwb - Ysgol Gyfun Abersychan

Torfaen Local Authority

Cyflog: £27,709 - £29,542 Pro Rata | Grade 4

Diolch am ddangos diddordeb mewn gwneud cais am swydd Cynorthwyydd Addysgu yn yr Hwb yn Ysgol Abersychan. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r ysgol wrth iddi ehangu ei darpariaeth i gefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, yn enwedig y rheiny sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Yn ddiweddar, sicrhaodd Ysgol Abersychan bartneriaeth gyda'n heglwys leol, Noddfa, i ddatblygu ein darpariaeth 'Hwb' oddi ar y safle, i wella profiadau addysgol ar gyfer grŵp bach o fyfyrwyr o flynyddoedd 9, 10 ac 11.

Mae Ysgol Abersychan yn ysgol uwchradd gyfun i ddisgyblion 11-16 oed ac mae'n diwallu anghenion plant o bob gallu. Rydyn ni'n ysgol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn hapus, yn llwyddiannus ac yn barod ar gyfer eu bywydau y tu hwnt i'r ysgol. Mae ein disgwyliadau a'n safonau yn uchel. Mae gennym staff ymroddgar a gofalgar iawn sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni y gorau sydd o fewn eu gallu personol. Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol 770 o fyfyrwyr, 50 o athrawon a 58 aelod o staff cymorth. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal o amddifadedd economaidd-gymdeithasol sylweddol ac mae gan 32% o'r myfyrwyr hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae 51% o'r myfyrwyr yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Cyflawnir nodau'r ysgol trwy system fugeiliol gadarn, ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel a dewis helaeth o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol, cerddorol ac allgyrsiol. Mae'r myfyrwyr yn hapus, yn gweithio'n galed ac yn teimlo'n bositif am yr ysgol. Maen nhw'n gaffaeliad go iawn i'n cymuned ac yn gyfeillgar dros ben. Maen nhw eisiau cael addysg o ansawdd uchel a dod yn fyfyrwyr llwyddiannus. Mae gennym rieni a llywodraethwyr gwych, sy'n gefnogol dros ben ac yn cefnogi'r ysgol i ddarparu'r addysg orau bosibl.

Os ydych chi'n llawn cyffro am y posibilrwydd o chwarae rhan bwysig i'n helpu i gyflawni ein huchelgeisiau, yn credu y gall pob myfyriwr, waeth beth fo'u cefndir neu eu gallu, gyflawni, ac os ydych yn teimlo'n angerddol am ddarparu addysg ragorol, yna byddem wrth ein boddau i glywed gennych! Yn gyfnewid, rwy'n gwarantu'n bersonol y cewch y gefnogaeth orau bosibl.

Yn y cyfamser, os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu ymweld â'r ysgol, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'r Pennaeth Cynorthwyol, Frances Page, drwy frances.page@abersychanschool.co.uk .

Dyddiad Cau: 23:59 Dydd Iau 8 Hydref

Cyfweliad: Dydd Gwener 16 Hydref

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.