MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: £34,811 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 06 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Tiwtor Lles Prosiect Blaengaredd

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: £34,811 y flwyddyn

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002574 Dyddiad postio 22/09/2026 Dyddiad cau ceisiadau 06/10/2026 Cyflog £34,811 y flwyddyn Oriau gwaith 37 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Education - Teaching Atodiadau Ffeil Trailblazer Wellbeing Tutor.pdf Tiwtor Lles Prosiect Blaengaredd.pdf

Tiwtor Lles Prosiect Blaengaredd

Disgrifiad Swydd
Mae'r swydd yma ar gael am gyfnod penodol hyd at 31/03/2027.

Dyma gyfle cyffrous ar gyfer Tiwtor Lles brwdfrydig, uchel ei gymhelliant a medrus.

Mae'r swydd Tiwtor Lles Prosiect Blaengaredd yn rôl newydd a bydd yn cynnig dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bennu a lliniaru effaith rhwystrau i gyflogaeth, trwy ddarparu cymorth gyda ffocws clir ar les a chynnydd.

Mae Prosiect Blaengaredd yn targedu pobl economaidd anweithgar o oedran gweithio sy'n anabl ac/neu sydd â chyflyrau iechyd neu gyfrifoldebau gofalu trwy ddarparu ymyriadau wedi'u teilwra, gan gynnwys mentora un-i-un, gwasanaethau cwnsela, darpariaeth les, a chymorth arbenigol, i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd.

Bydd swyddfa deiliad y swydd yng Nghanolfan Calon Taf, Parc Coffa Ynysangharad CF37 4PF. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd deithio ledled y Fwrdeistref i gyflwyno cyrsiau lles heb achrediad. Bydd deiliad y swydd yn cyflwyno cyrsiau mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ysgolion sy'n canolbwyntio ar deuluoedd a chanolfannau gwaith.

Mae'n hanfodol bod gan yr ymgeisydd sgiliau Cymraeg Lefel 5 a/neu gymhwyster addysgu.

Am ragor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Dawn Price, Uwch Swyddog ar 07773459616 neu e-bostio dawn.price@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person ar gyfer y swydd, ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 neu'n uwch, bydd gwahoddiad i chi gael cyfweliad os ydych chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal - Cynllun Gwarantu Cyfweliad

Yn rhan o rôl rhianta corfforaethol y Cyngor, mae wedi ymrwymo i gefnogi unigolion â phrofiad o fod mewn gofal. Dyma unigolion sydd wedi treulio amser yn y system ofal ar unrhyw adeg yn ystod eu bywyd. Rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi nhw i gael mynediad at gyflogaeth, addysg, profiadau a chyfleoedd gwirfoddoli.

Bydd y Cyngor yn gwarantu cyfweliad ar gyfer unigolion â phrofiad o fod mewn gofal sy'n dymuno cymryd rhan yn y cynllun ac sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd.