MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Graddfa Seicolegydd Addysg Cynorthwyol Soulbury 2-5
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 07 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Seicolegydd Addysg Cynorthwyol Soulbury 2-5
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae ColwynMae gennym gyfle cyffrous i Seicolegydd Addysg llawn dyhead ymuno â'n Gwasanaeth Seicoleg Addysg cefnogol ac uchel ei barch yn ardal hardd gogledd Cymru.
Fel Seicolegydd Addysg Cynorthwyol, byddwch yn aelod gwerthfawr o'n tîm, yn gweithio ochr yn ochr â Seicolegwyr Addysg profiadol i gefnogi plant a phobl ifanc, eu teuluoedd, ysgolion, a gwasanaethau ehangach. Dan oruchwyliaeth, byddwch yn cyfrannu at ymgyngoriadau, arsylwadau, asesiadau, ymyriadau, ysgrifennu adroddiadau, ymchwil, a gweithgarwch datblygu gwasanaeth, gan ennill profiad uniongyrchol o rôl amrywiol a gwerthfawr Seicolegydd Addysg.
Yng Nghonwy, yr ydym yn falch o'n dull cydweithredol, sy'n seiliedig ar berthynas. Mae ein Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn uchel iawn ei barch ymysg ysgolion, teuluoedd, y gwasanaeth ADY ehangach, a phartneriaid amlasiantaeth. Dyna pam yr ydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, myfyrgar, llawn cymhelliant, sy'n angerddol dros wella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn goruchwyliaeth o ansawdd uchel, cyfleoedd ar gyfer twf proffesiynol, a'r cyfle i weithio o fewn gwasanaeth sy'n gwerthfawrogi chwilfrydedd, cydweithio, a dysgu parhaus.
Mae'r swydd hon yn gyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a sgiliau seicolegol cymwysedig, ennill profiad helaeth ar draws ystod eang o leoliadau addysgol, a datblygu sylfaen gref ar gyfer gyrfa mewn Seicoleg Addysg yn y dyfodol.
Os ydych yn ymroddedig i ddilyn gyrfa mewn Seicoleg Addysg ac yn edrych am gyfle i ennill profiad cyn-ddoethurol ystyrlon o fewn tîm blaengar a chefnogol, byddem wrth ein boddau'n clywed gennych.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Dr Kate Swindon, Prif Seicolegydd Addysg
( 01492 575173 / Kate.swindon@conwy.gov.uk )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.