MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,911 - £41,598
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Darlithydd Addysg i Oedolion

Darlithydd Addysg i Oedolion

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Addysg i Oedolion

Lleoliad: Iâl yn Wrecsam (bydd angen teithio rhwng safleoedd Coleg Cambria eraill a lleoliadau cymunedol eraill ar draws Sir y Fflint a Wrecsam)

Y Math o Gontract: Parhaol - Llawn Amser

Cyflog: £26,911 - £41,598 yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol



Mae Coleg Cambria yn chwilio am Ddarlithydd Addysg i Oedolion i ymuno â’u tîm ar ein safle Iâl yn Wrecsam. Fe fydd angen teithio i safleoedd Coleg Cambria eraill a lleoliadau cymunedol hefyd.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gwydn a llawn cymhelliant gyda hanes llwyddiannus o addysgu Mathemateg a/neu Saesneg i oedolion.

Byddwch yn cynllunio, datblygu a darparu addysgu o safon uchel i ymgysylltu â dysgwyr er mwyn eu cefnogi nhw i ennill eu cymwysterau’n llwyddiannus o Lefel Mynediad i Lefel 2.


Gofynion Hanfodol

Gyda Gradd (Lefel 6) mewn un ai Saesneg, Mathemateg neu bwnc perthnasol arall

Rhaid i chi fod â chymhwyster TAR

Rhaid i chi allu dangos profiad blaenorol sylweddol mewn cyflwyno cyrsiau sgiliau i ddysgwyr sy’n oedolion.



Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn dymunol gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.


Dyddiad cau i wneud cais: 29/06/21
JOB REQUIREMENTS
Gofynion Hanfodol

Gyda Gradd (Lefel 6) mewn un ai Saesneg, Mathemateg neu bwnc perthnasol arall

Rhaid i chi fod â chymhwyster TAR

Rhaid i chi allu dangos profiad blaenorol sylweddol mewn cyflwyno cyrsiau sgiliau i ddysgwyr sy’n oedolion.