MANYLION.
  • Lleoliad: Llandudno,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Gradd G05, pwynt NJC 12-19 £22,329 - £25,033 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dadansoddwr Ymddygiad Cynorthwyol Parhaol  - Ysgol Y Gogarth

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Gradd G05, pwynt NJC 12-19 £22,329 - £25,033 y flwyddyn

YSGOL Y GOGARTH

Ysgol Ddydd/Breswyl Arbennig i ddisgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig

(275 ar y gofrestr, ystod oedran 3 i 19)

Ffordd Nant y Gamar, Llandudno, LL30 1YE

Ffôn: 0300 456 9521

Pennaeth: Mrs Lisa Kovacs

Yn eisiau mor fuan â phosib

Dadansoddwr Ymddygiad Cynorthwyol Parhaol

Mae'r Corff Llywodraethol yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y swydd uchod.

Mae profiad o weithio gyda disgyblion ag amrywiaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ddymunol. Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun Datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru â'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn dechrau'r swydd.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r Pennaeth

Sylwer nid yw'r awdurdod bellach yn darparu ffurflenni cais nac yn derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirda yn cael eu gwirio. Os na fydd ymgeiswyr wedi clywed gennym cyn pen 3 wythnos ar ôl y dyddiad cau, dylent ragdybio nad ydynt wedi'u rhoi ar y rhestr fer i gael cyfweliad ac ni fyddant yn cael gwybod am hyn yn ysgrifenedig. Er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal mae Conwy yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English