MANYLION.
  • Lleoliad: Schools,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: NJC G06 pwynt 20 - 25, £28,975 - £32,323 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 05 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Busnes - Clwstwr Ysgolion Cynradd Aberconwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: NJC G06 pwynt 20 - 25, £28,975 - £32,323 y flwyddyn

GWASANAETHAU ADDYSG

YSGOL ABERCONWY

Rhodfa Morfa, Conwy, LL26 0EY

Ffôn: (01492) 593 243

Pennaeth: Mr Ian Gerrard

Yn eisiau erbyn mis Hydref 2026

Rheolwr Busnes - Ysgolion Cynradd Clwstwr Aberconwy

(Swydd Barhaol)

Oriau: 37 awr yr wythnos tymor ysgol a 5 diwrnod hyfforddiant

Cyflog: NJC G06 pwynt 20 - 25, £28,975 - £32,323 y flwyddyn

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymgymryd â rôl unigryw, gan weithio ar draws saith ysgol gynradd o fewn clwstwr Ysgol Aberconwy: Ysgol Awel y Mynydd, Ysgol Deganwy, Ysgol Capelulo, Ysgol Porth y Felin, Ysgol Pencae, Ysgol Babanod Llanfairfechan ac Ysgol Pant y Rhedyn.

Prif bwrpas y Rheolwr Busnes Ysgolion Cynradd Clwstwr yw rhyddhau Penaethiaid o ystod o gyfrifoldebau gweinyddol a threfniadol lefel uwch, trwy ddatblygu a gweithredu systemau, strategaethau ac arferion gorau effeithiol. Bydd hyn yn galluogi Penaethiaid i ganolbwyntio'n llawnach ar eu prif gyfrifoldebau o ran addysgu a dysgu, gwella'r ysgol, codi safonau a gwella canlyniadau i ddisgyblion.

Bydd y Rheolwr Busnes Ysgolion Cynradd Clwstwr yn gweithio'n agos gyda phenaethiaid ar draws y saith ysgol ac yn darparu cymorth mewn meysydd allweddol, gan gynnwys:
  • Adnoddau Dynol
  • Iechyd a Diogelwch
  • Polisīau a Gweithdrefnau'r Ysgol
  • Cyllid
  • Data

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad

gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r ysgol ar (01492) 593 243

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English