MANYLION.
  • Lleoliad: Abergele,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa G02 NJC pwynt 4-5 £10,890- £11,063 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Reoledig Llansansior

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa G02 NJC pwynt 4-5 £10,890- £11,063 y flwyddyn

Ysgol Reoledig Llansansior

Ysgol Gynradd Wirfoddol dan reolaeth yr Eglwys yng Nghymru

Bryn Briallu, San Sior, Abergele , LL22 9BU

Pennaeth: Mrs Sain Wilkinson

Ebost: pennaeth@stgeorge.conwy.sch.uk

Ffon: 01745 833213

Yn eisiau erbyn mis Hydref 2026

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 2

(Swydd barhaol)

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Llanansior yn falch iawn o wahodd ceisiadau am Gymhorthyddd Addysgu Lefel 2 i ymuno â'n tîm rhagorol ac ymroddedig.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, ymroddedig a llawn cymhelliant a all weithio'n effeithiol ar draws y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob disgybl a bydd yn gallu eu cefnogi i gyflawni eu potensial llawn, yn academaidd ac yn emosiynol. Mae ymrwymiad i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg a hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn weithredol o fewn yr ysgol yn ddymunol.

Yn Ysgol Llanansior, rydym yn falch o'n cymuned ysgol gadarnhaol a'n tîm ymroddedig. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno ag ysgol gefnogol lle mae disgyblion a staff yn cael eu hannog i gyrraedd eu potensial llawn.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd, cysylltwch â Mrs Sian Wilkinson on 01745 833213.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English