MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £33,673 - £36,581 (Pro-rata) | Grade 6
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 12 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Clerc i'r Corff Llywodraethu a Chynorthwyydd Personol i'r Pennaeth
Torfaen Local Authority
Cyflog: £33,673 - £36,581 (Pro-rata) | Grade 6
Clerc i'r Corff Llywodraethu a Chynorthwyydd Personol i'r Pennaeth - Ysgol Uwchradd CwmbrânDyma gyfle cyffrous i ymuno â chymuned ysgol groesawgar ac uchelgeisiol wrth i ni barhau â'n taith tuag at ddod yn ysgol sy'n ddewis cyntaf i ddisgyblion, staff a theuluoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi arweinyddiaeth strategol yr ysgol a gweithrediad effeithiol y Corff Llywodraethu.
Yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân, mae gennym ddyheadau uchel i bob aelod o'n cymuned. Ein nod yw darparu profiadau dysgu ac addysgu o ansawdd sy'n gyson uchel ar gyfer pob disgybl, o fewn diwylliant lle mae llesiant, cynhwysiant a chyflawniad wrth galon popeth a wnawn.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob disgybl, o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed i'n dysgwyr mwyaf abl a thalentog, yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial llawn. Rydym yn cydnabod bod dysgu llwyddiannus yn gofyn am ddull personol, sy'n diwallu anghenion unigol pob plentyn ac yn hyrwyddo llwyddiant academaidd a datblygiad personol ar yr un pryd.
Fel Clerc i'r Llywodraethwyr a'r Pennaeth, byddwch yn unigolyn medrus a rhagweithiol iawn, sy'n llawn cymhelliant, a bydd gennych agwedd o &slshquot;allu gwneud&slshquot;. Byddwch yn rhoi cymorth gweinyddol neilltuol i'r Pennaeth a'r Tîm Uwch-arweinwyr.
Mae'r rôl yn un amrywiol iawn ac yn gofyn am sgiliau trefnu neilltuol yn ogystal â sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gydag Uwch-swyddog Cymorth yr Ysgol.
Am drafodaeth anffurfiol am y broses ymgeisio a'r swydd wag, cysylltwch â Mrs Lucy Miles (Uwch-swyddog Cymorth yr Ysgol) i drafod y cyfle hwn ymhellach: lucy.miles@cwmbranhigh.ysgol
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.