MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Cemeg
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 10 June, 2021
  • Dyddiad Gorffen: 30 June, 2022
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,911 - £41,598
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Darlithydd mean Cemeg Safon Uwch

Darlithydd mean Cemeg Safon Uwch

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth

Teitl y Swydd: Darlithydd mean Cemeg Safon Uwch

Lleoliad: Ial

Y Math o Gontract: Tymor llawn / Tymor penodol tan Mehefin 2022

Cyflog: £26,911 - £41,598 yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad

Rydym yn chwilio am Ddarlithydd mewn Cemeg Safon Uwch i gyflenwi ein cyrsiau gwyddoniaeth gymhwysol Safon Uwch/UG a BTEC.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, rhaid i chi fod â phrofiad a chymhwysedd amlwg yn y maes hwn yn ogystal â hanes o arwain rhaglen ddysgu’n llwyddiannus.

Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria bydd gofyn i chi gyflwyno dysgu ymarferol ac yn yr ystafell ddosbarth i'n myfyrwyr. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, annog a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr bob amser.



Gofynion Hanfodol

• Meddu ar Radd neu gymhwyster cyfwerth (Lefel 6) mewn Gwyddoniaeth neu Gemeg

• Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar

• Byddai profiad blaenorol o addysgu Cemeg Safon Uwch yn ddymunol iawn

• Yn hunanysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun

• Rhaid i ymgeiswyr ddal trwydded yrru ddilys a gallu cael gafael ar eu trafnidiaeth eu hunain.



Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’ yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd ydych chi’n gwneud cais amdani, efallai bydd gofyn hefyd i chi gofrestru gyda’r Cyngor y Gweithlu Addysg.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau i wneud cais: 25/06/2021
JOB REQUIREMENTS
Gofynion Hanfodol

• Meddu ar Radd neu gymhwyster cyfwerth (Lefel 6) mewn Gwyddoniaeth neu Gemeg

• Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar

• Byddai profiad blaenorol o addysgu Cemeg Safon Uwch yn ddymunol iawn

• Yn hunanysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun

• Rhaid i ymgeiswyr ddal trwydded yrru ddilys a gallu cael gafael ar eu trafnidiaeth eu hunain.