MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £25,047 - £26,764 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 29 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Cefnogi Teuluoedd (32.75 awr) Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth
Cyngor Gwynedd
Cyflog: £25,047 - £26,764 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION CYNRADD
SWYDDOG CEFNOGI TEULU (32.75 AWR)
YSGOL HAFOD LON, PENRHYNDEUDRAETH
(Arbennig 4 - 18 oed: 135 o ddisgyblion)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S2 pwyntiau 18 - 22 (sef £25,047 - £26,764 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster ar gyfer y swydd Swyddog Cefnogi Teulu.
Yn eisiau: Cyn gynted a phosib
Oriau gwaith: 32.75 awr yr wythnos fel Swyddog Cefnogi Teulu
(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Pholisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Catrin Evans. Rhif Ffôn 01766 772140 e-bost: Donna.Roberts@hafodlon.ysgoliongwynedd.cymru
Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Sian Evans, Swyddog Busnes Ysgolion. Rhif ffon 01758 704046 e-bost: sianevans@gwynedd.llyw.cymru
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau am y swydd hon dydd Iau, 1 Hydref 2026.
DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD LLUN, 28 MEDI 2026.
(This is an advertisement for a Family Support Officer (32.75 hours) at Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Agwedd gadarnhaol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr.
Person sydd â'r dychymyg i hyfforddi unigolion/grwpiau mewn ffordd ddiddorol.
Personoliaeth ddiplomyddol a chroesawgar.
Personoliaeth ddigynnwrf a hyblyg.
Yn fentrus, yn hyderus ac yn barod i gymryd risgiau rhesymol.
Gallu i gydweithio ag amrywiaeth ac ystod eang o bobl.
Un sy'n gallu blaenoriaethu gwaith ac i gwrdd â therfynau amser penodol.
Un sy'n gallu gweithio fel rhan o dîm.
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymhwyster sydd yn cyfateb i lefel 3 NVQ/QCF o fewn y maes Blynyddoedd Cynnar/Gofal Plant/addysg.
DYMUNOL
Gradd a/neu gymhwyster proffesiynol lefel 5 o fewn y maes addysg, gwaith cymdeithasol neu iechyd/gofal.
Hyfforddiant mewn rhaglenni rhiantu yn seiliedig ar dystiolaeth.
Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol yn unol a Fframwaith.
Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc neu'i theuluoedd o fewn y maes gofal, addysg, gwaith cymdeithasol neu iechyd.
Profiad o asesu anghenion amrywiol a chymhleth ac ymateb iddynt, gan ganolbwyntio ar adeiladu ar gryfderau a chyflwyno newid.
Profiad o gynnwys plant, pobl ifanc a'u rhieni wrth gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau.
Profiad o weithio mewn sefyllfaoedd amlasiantaethol ac o feithrin perthynas.
Profiad o farchnata gwasanaeth i gynulleidfa amrywiol sy' n cynnwys gweithwyr proffesiynol, plant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr.
Profiad o weithredu rhaglenni neu grwpiau cefnogi teulu.
Profiad o lunio adroddiadau.
DYMUNOL
Profiad o ddarparu cyngor a gwybodaeth broffesiynol i sawl cynulleidfa.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu i weithio'n arloesol a chreadigol o fewn cyd-destun aml disgybledig.
Sgiliau wrth gynllunio gwaith yn effeithiol ac wrth gyrraedd targedau a chyflawni tasgau.
Ymwybyddiaeth o ACES (profiadau niweidiol yn ystod plentyndod), a'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu a gweithredu ymyraethau effeithiol.
Gwybodaeth am ddiogelu, deddfwriaeth gofal plant, a gweithdrefnau amddiffyn plant.
Y gallu i adnabod gallu rhieni i fagu plant, a'r risg a'r ffactorau amddiffynnol.
Dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn.
Y gallu i adnabod a mesur anghenion drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau.
Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol.
Sgiliau cyfrifiadurol da a'r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office (e.e. Word, Excel, Access, Outlook, PowerPoint).
Gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda chynulleidfa eang.
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
DYMUNOL
Dealltwriaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod llais y disgybl a'i deulu yn ganolog i bob agwedd o'r ddarpariaeth gefnogi.
• Gweithio mewn partneriaeth â rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol er mwyn hyrwyddo llesiant, presenoldeb, ymgysylltiad a chynnydd disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
• Darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad ymarferol i deuluoedd er mwyn eu galluogi i ddeall a chefnogi anghenion addysgol, cymdeithasol, emosiynol a datblygiadol eu plentyn.
• Cryfhau'r berthynas rhwng y cartref a'r ysgol, gan sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad at wybodaeth, gwasanaethau a chymorth perthnasol.
• Cydlynu a hwyluso ymyraethau, gweithdai a rhaglenni cefnogi teuluoedd sy'n gwella canlyniadau i ddisgyblion ac yn cynyddu gallu teuluoedd i gefnogi eu plant.
• Gweithio'n effeithiol fel aelod o dîm amlasiantaethol yr ysgol er mwyn sicrhau dull cyfannol a chydgysylltiedig o gefnogi disgyblion a'u teuluoedd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Offer cyrsiau
• Offer TG a ffôn symudol.
• Mynediad at ffeiliau Plant cyfrinachol.
• Cyllideb bach ar gyfer cyrsiau a gweithgareddau rhiantu.ee. llogi cyfleusterau, adnoddau, gofal plant, trafnidiaeth a.y.b.
Prif Ddyletswyddau.
Datblygu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol, cefnogol a phroffesiynol gyda rhieni, gofalwyr a theuluoedd disgyblion.
Bod yn bwynt cyswllt allweddol i deuluoedd, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch darpariaeth yr ysgol, gwasanaethau cymorth a chyfleoedd yn y gymuned.
Gweithio gyda theuluoedd i adnabod anghenion, cryfderau a rhwystrau sy'n effeithio ar lesiant, presenoldeb, ymddygiad neu gynnydd y disgybl.
Cynnal asesiadau ac adolygiadau cefnogi teuluol pan fo angen, a llunio cynlluniau gweithredu priodol mewn partneriaeth â theuluoedd a staff yr ysgol.
Cefnogi teuluoedd i gyfranogi'n llawn mewn cyfarfodydd adolygu CDU, cynllunio pontio, cyfarfodydd amlasiantaethol a phrosesau ysgol perthnasol.
Darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i deuluoedd sy'n wynebu heriau sy'n ymwneud ag ADY, iechyd, ymddygiad, llesiant, presenoldeb neu amgylchiadau teuluol cymhleth.
Trefnu a hwyluso gweithdai, sesiynau gwybodaeth a grwpiau cefnogi i rieni a gofalwyr ar themâu sy'n berthnasol i anghenion disgyblion yr ysgol.
Cefnogi teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau statudol a gwirfoddol perthnasol, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau therapi a sefydliadau cymunedol.
Gweithio'n agos gyda staff addysgu, y tîm llesiant, therapyddion, seicolegwyr ac asiantaethau allanol i sicrhau dull cydgysylltiedig o gefnogi disgyblion.
Monitro ac adrodd ar effaith ymyraethau a chymorth teuluol gan ddefnyddio systemau cofnodi a gwerthuso'r ysgol.
Cynnal cofnodion cywir, amserol a chyfrinachol yn unol â gofynion diogelu data a pholisïau'r ysgol.
Cyfrannu at strategaethau gwella presenoldeb ac ymgysylltiad teuluol drwy ymweliadau cartref, cysylltiadau rheolaidd a mentrau cefnogi penodol. Dyletswyddau Diogelu.
Bod yn effro bob amser i arwyddion posibl o gamdriniaeth, esgeulustod, ecsbloetio neu unrhyw bryderon sy'n ymwneud â llesiant disgyblion a'u teuluoedd.
Cofnodi unrhyw bryderon diogelu yn gywir, yn wrthrychol ac yn amserol, gan ddilyn gweithdrefnau a systemau cofnodi'r ysgol.
Rhannu pob pryder diogelu yn ddi-oed gyda'r Person Diogelu Dynodedig (PDD) neu'r Dirprwy BDD yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r ysgol.
Gweithio'n agos gyda staff yr ysgol, gwasanaethau cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol ac asiantaethau perthnasol eraill i sicrhau bod disgyblion a theuluoedd yn derbyn cefnogaeth briodol ac amserol.
Mynychu cyfarfodydd amlasiantaethol, cynadleddau amddiffyn plant a chyfarfodydd cynllunio neu adolygu pan fo hynny'n briodol i'r rôl, gan gyfrannu gwybodaeth berthnasol am y teulu a'r disgybl.
Cynnal cyfrinachedd proffesiynol bob amser, gan rannu gwybodaeth yn unig yn unol â gofynion diogelu a deddfwriaeth diogelu data.
Cyfrifoldeb i adrodd ar unwaith unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn dioddef neu mewn perygl o ddioddef niwed, yn unol â gweithdrefnau diogelu'r ysgol a'r awdurdod lleol.
Sicrhau bod diogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc yn ganolog i bob agwedd o'r gwaith gyda disgyblion, teuluoedd a phartneriaid allanol.
Cefnogi disgyblion a'u teuluoedd yn ystod cyfnodau pontio allweddol, gan gynnwys mynediad i'r ysgol, newid dosbarth a pharatoi ar gyfer ôl-16.
Cyfrannu at ethos cynhwysol yr ysgol drwy hyrwyddo cydraddoldeb, parch, urddas a hawliau plant a phobl ifanc.
Mynychu cyfarfodydd, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol perthnasol i gynnal ac ehangu gwybodaeth a sgiliau'r rôl.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy'n briodol i raddfa a chyfrifoldebau'r swydd.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Yn achlysurol bydd angen i'r swyddog weithio oriau anghymdeithasol.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na'r lefel cyfrifoldeb.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi