MANYLION.
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £20,239 - £31,165 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 21 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth - Ysgol Tryfan

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £20,239 - £31,165 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

YSGOL TRYFAN, BANGOR

Yn eisiau: ar gyfer 1af o Ionawr, 2027

ATHRO / ATHRAWES Gwyddoniaeth

Swydd Rhan Amser (0.6) Dros dro hyd at 31/08/27

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod gan athrawon egnïol a brwdfrydig. Disgwylir i'r sawl a benodir addysgu Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£20,239 - £31,165 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Dr Geraint Owen Jones.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU

(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru )

Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD LLUN, MEDI 21AIN, 2026.

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau - 28/09/26

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

(The above is an advertisement for a temporary part time Science Teacher at Ysgol Tryfan, Bangor for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn. This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
  • Statws athro/athrawes cymwysedig
  • Yn meddu ar radd safonol mewn maes perthnasol

DYMUNOL
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol perthnasol diweddar

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Profiad o:
  • sgiliau rheolaeth dosbarth effeithiol
  • gynnal gwersi heriol a diddorol
  • ddefnyddio adnoddau yn effeithiol
  • osod a gweithredu disgwyliadau uchel yn gyson
  • gynllunio'n llwyddiannus ac yn drwyadl
  • gyfrannu at fywyd allgyrsiol ysgol
  • gydweithredu fel aelod o dîm
  • addysgu'r pwnc hyd at Safon Uwch

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion a'r datblygiadau addysgol cyfredol yn y maes
  • Person egniol gyda'r gallu i gyflawni strategaethau effeithiol ar gyfer gwelliant
  • Y gallu i weithio o dan gyfarwyddid a chydweithio fel aelod o dîm
  • Y gallu i sicrhau dysgu o'r safon uchaf, cyfleoedd dysgu unigol o safon uchel i bob disgybl, a safonau cyrhaeddiad uchel
  • Y gallu i ddefnyddio asesiadau'n effeithiol
  • Sgiliau rhagorol wrth reoli ymddygiad disgyblion
  • Defnydd effeithiol o DGCh
  • Y gallu i addysgu'r pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Y gallu i arwain llwyddiant a gwelliant adran trwy brosesau hunan arfarnu.

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • Person egniol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel
  • Sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf
  • Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol
  • Dymuniad i ddatblygu'n broffesiynol
  • Y gallu a'r brwdfrydedd i gyfrannu i fywyd allgyrsiol yr ysgol

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.
Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.
Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig mewn modd gwbl hyderus

Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir

rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.

Swydd Ddisgrifiad

Gwybodaeth ar gyfer y swydd Athro/Athrawes Gwyddoniaeth

MANYLION AM YR YSGOL

Ysgol uwchradd sy'n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i gylch Bangor yw Ysgol Tryfan. Mae yma 543 o ddisgyblion 11-18 oed ar hyn o bryd, gyda 71 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth erbyn hyn.

Ymhyfrydwn yng nghanlyniadau rhagorol ein disgyblion yn yr arholiadau allanol, y gymdeithas glos a chyfeillgar sy'n bodoli yn yr ysgol a'r sylw unigol a roddwn i ddisgyblion mewn dosbarthiadau bychain wrth gynorthwyo ac ymestyn.

Mae amserlen yr ysgol yn seiliedig ar 6 gwers 50 munud y dydd.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr ysgol: www.ysgoltryfan.org . Yno ceir blas ar fywyd yr ysgol a gellir lawrlwytho dogfennau megis prosbectws yr ysgol a'r adroddiad diweddaraf gan Estyn.

Datganiad o werthoedd yr ysgol.

Yn Ysgol Tryfan amcanir i greu cymdeithas glos, Gymraeg ei hiaith, ble fod pawb-
  • yn hapus ac yn hyderus;
  • yn llwyddo hyd eithaf eu gallu ym mhob maes;
  • yn arddel hunan-barch a pharch at eraill;
  • yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Rhagoriaeth yw nod yr ysgol yn ei holl weithgaredd. Cred yr ysgol mewn bod yn agored ac yn ymatebol.

Nodau.
  • Cynnig addysg o'r ansawdd uchaf posibl i gynorthwyo'r disgybl unigol i ddod i adnabod ei hunan, i feithrin yr adnoddau cynhenid sydd ganddo i eithaf ei allu ac i oresgyn ei wendidau.
  • Creu awyrgylch a fydd yn meithrin ym mhob disgybl berthynas iach gydag eraill, a'i ddysgu i barchu a gwerthfawrogi cymeriadau, talentau a daliadau pobl eraill.
  • Galluogi pob disgybl i ddatblygu i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg fel y gall ddod i adnabod a deall y gymdeithas a'r byd y mae'n byw ynddo ac ennyn ymwybyddiaeth o'i wreiddiau, ei gefndir a'i amgylchedd.

  • Amcanion
  • Datblygu cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol ar gyfer pob disgybl a fydd yn ateb gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, polisïau'r ysgol a pholisïau'r AALl.
  • Meithrin a monitro datblygiad pob disgybl drwy'r drefn fugeiliol sy'n bodoli yn yr ysgol i ofalu am les a ffyniant y disgyblion.
  • Paratoi'r disgyblion i feithrin y cymwysterau y byddant eu hangen yn y gymdeithas y deuant yn rhan ohoni ac er mwyn iddynt allu cyfrannu'n gyfrifol iddi.
  • Datblygu cysylltiadau gyda masnach a diwydiannau lleol a chreu perthynas glos gyda'r rhieni, addysg bellach ac uwch a'r gymdeithas yn gyffredinol

  • RHAI MANYLION PERSONOL

    Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod:
    • Â chymwysterau priodol i arwain y maes yn yr ysgol.
    • Yn frwdfrydig a chreadigol, er mwyn ysgogi a chynnal diddordeb disgyblion yn y maes.
    • Yn abl i addysgu'r pwnc i'r ystod oedran llawn.
    • Yn meddu ar sgiliau TGCh cadarn.
    • Yn rheolwr dosbarth effeithiol gyda'r sgiliau i sicrhau fod yna awyrgylch gynhaliol yn y dosbarth i hybu'r dysgu.
    • Yn deall fod disgyblion yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol ac felly'n barod i addasu'r addysgu i'w hanghenion.
    • Yn weinyddwr trefnus gyda'r gallu i gynllunio gwaith a'i orffen; i asesu gwaith yn rheolaidd a chofnodi hynny'n drefnus; i ysgrifennu adroddiadau manwl a pherthnasol.
    • Yn abl i weithio'n annibynnol a hefyd yn barod i gydweithio fel rhan o dîm.
    • Yn barod i ymateb i ddatblygiadau pynciol lleol a chenedlaethol yn y maes.
    • Yn gallu arwain yn strategol ac yn gydwybodol holl agweddau datblygol adran, gan gynnwys yn benodol y cylch datblygu a'r hunan arfarnu.
    • Yn meddu ar ymwybyddiaeth gadarn o ofynion iechyd a diogelwch yn y gweithle.


    • Ceisio ar lein - Sut?
    • Rhestr Swyddi