MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: L29 - L35 (£104,832 - £120,238)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 02 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: L29 - L35 (£104,832 - £120,238)
Ysgol Uwchradd Brif Ffrwd (gymysg), 11 i 16 oedCyflog L29 -L35 (£104,832 - £120,238)
32.5 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Croesyceiliog yn dymuno penodi Pennaeth neilltuol, arloesol sy'n llawn ysbrydoliaeth o fis Ebrill 2027 a fydd yn adeiladu ar gynnydd diweddar yr ysgol ac yn arwain cam nesaf ei datblygiad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ysbrydoli ein Tîm Uwch-arweinwyr brwdfrydig a phrofiadol, athrawon ymroddgar a staff cymorth effeithiol iawn.
Mae Ysgol Croesyceiliog wedi bod trwy newid sylweddol a llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys symud i adeilad o'r radd flaenaf. Mae'r ysgol wedi llwyddo i ddatblygu gweledigaeth gyffredin glir ar gyfer ei chwricwlwm, wedi'i chynllunio mewn ymgynghoriad agos â disgyblion, rhieni a phartneriaid, gan sicrhau bod y dysgu yn berthnasol, yn gynhwysol ac yn uchelgeisiol i bawb. Ar ôl proses lawn o reoli newid staff, mae'r ysgol wedi llwyddo i sicrhau llinellau clir o atebolrwydd ac mae ganddi brosesau hunanwerthuso cadarn yn eu lle i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i wneud cynnydd yn erbyn ei blaenoriaethau.
Roedd arolygiad diweddaraf Estyn yn yr ysgol yn cydnabod perthnasoedd cadarnhaol fel cryfder nodedig i'r ysgol, a thynnwyd sylw at y diwylliant cryf o barch, ymddiriedaeth a chydweithredu ar draws y gymuned. Nodwyd hefyd fod arweinwyr yn blaenoriaethu llesiant staff a disgyblion yn llwyddiannus, gan sicrhau amgylchedd cefnogol lle gall dysgwyr a staff ffynnu.
Rydyn ni'n chwilio am arweinydd ymroddgar ac uchelgeisiol a all adeiladu ar y sylfaen gadarn hon, datblygu'r cynnig dysgu ymhellach i ddysgwyr o bob gallu, a galluogi pob unigolyn ifanc i gyflawni eu dyheadau a rhagori arnynt. Dydy'r Corff Llywodraethu ddim yn gosod unrhyw gyfyngiadau ar uchelgais i'r ysgol na'i dysgwyr ac mae wedi ymrwymo i ehangu gorwelion a chyfleoedd i bob aelod o'n cymuned.
Dyma gyfle gwych i arweinydd uchelgeisiol sy'n llawn ysbrydoliaeth ac sy'n gyffrous wrth feddwl am yr her o arwain Ysgol Croesyceiliog ar ei thaith tuag at ragoriaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Uwch-arweinydd hynod lwyddiannus, brwdfrydig a phrofiadol gyda hanes profedig, cymeriad cryf a gwytnwch
- Ymarferydd blaengar, arloesol a chreadigol, sydd ar flaen y Cwricwlwm i Gymru ac yn meddwl ac yn ymarfer ar sail tystiolaeth
- Angerddol am ddarparu'r cyfleoedd addysgol gorau ar gyfer ein disgyblion i gyd, gyda ffocws clir ar hyrwyddo addysgu a dysgu effeithiol
- Cyfathrebwr rhagorol sydd â sgiliau rhyngbersonol datblygedig iawn
- Hyfforddwr a mentor i staff a gweithwyr proffesiynol eraill
- Ymrwymo i barhau â'r partneriaethau llwyddiannus sydd wedi eu sefydlu gyda disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr, asiantaethau allanol eraill a'r gymuned ehangach
- Arweinydd sydd â disgwyliadau uchel ar gyfer dysgu disgyblion a'u hymddygiad
- Ymrwymo i hyrwyddo llesiant pob aelod o gymuned yr ysgol
- Adeiladu timau a darparu cyfleoedd ar gyfer twf proffesiynol.
Gallwn gynnig i chi:
- Gyfle gwych i weithio gyda chymuned o ddisgyblion brwdfrydig, staff ymroddgar, rhieni cefnogol a chorff llywodraethu profiadol a gwybodus
- Tîm cryf o gydweithwyr hynod ymroddgar, sy'n llawn cymhelliant ac yn gefnogol
- Ysgol sydd â gallu cryf i arwain
- Cyfleuster dysgu o'r radd flaenaf
- Ysgol hapus, gefnogol a chroesawgar sydd â chysylltiadau cryf â'r gymuned ehangach
- Ysgol lle mae llwyddiant pob disgybl yn bwysig
- Ysgol lle mae llesiant a hunan-barch disgyblion a staff yn hollbwysig
- Ysgol lle mae dysgu wrth galon popeth a wnawn.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Phil Davies (Cadeirydd y Llywodraethwyr) Ffôn: 07912139069. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gweithio tuag at y CPCP ac sy'n disgwyl ei gwblhau erbyn y dyddiad cau.
Dyddiad Cau: Dydd Llun 2 Tachwedd 2026
Tynnu'r Rhestr Fer: Dydd Iau 12 Tachwedd 2026
Cyfweliadau: Dydd Mercher 18 a dydd Iau 19 Tachwedd 2026
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.