MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Tryfan, Bangor,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: £22,339 - £24,559 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 21 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 4 - Ysgol Tryfan

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £22,339 - £24,559 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL TRYFAN, BANGOR

(Ysgol Gyfun 11 - 18 oed, 543 o ddisgyblion)

Yn eisiau: I gychwyn Tachwedd 2il, 2026

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 4 (Cymhorthydd Cyflenwi)

Swydd barhaol

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos

(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Prif gyfrifoldebau'r swydd fydd arolygu dosbarthiadau yn ystod absenoldeb cyfnod byr athrawon. Yn ogystal bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithredu fel Anogwr Dysgu a Chefnogaeth Bugeiliol i griw penodol o ddysgwyr.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, S1 pwyntiau 12 - 17 (£22,339 - £24,559) y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i gysylltu gyda'r Pennaeth, Dr Geraint Owen Jones am sgwrs anffurfiol / i drefnu ymweliad â'r ysgol.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU (Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru )

Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU 10.00yb, DYDD LLUN, MEDI 21ain, 2026

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau DYDD IAU 24/09/26

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

Profiad
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd dysgu gyda phlant o'r oedran priodol.

Cymwysterau
  • Cyfarfod â safonau Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch neu gymhwyster neu brofiad cyfwerth.
  • Sgiliau rhif/llythrennedd ardderchog - cyfwerth â NVQ Lefel 2 mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg.
  • Hyfforddiant mewn strategaethau dysgu perthnasol, e.e. llythrennedd.
  • Sgiliau/hyfforddiant arbenigol yn y maes cwricwlaidd neu ddysgu, e.e. dwyieithrwydd, iaith arwyddo, TGaCh.

Gwybodaeth/Sgiliau
  • Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithlon i gefnogi dysgu.
  • Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau /codau ymarfer/ deddfwriaeth perthnasol.
  • Gwybodaeth weithio a phrofiad o weithredu cwricwlwm cyfnodol cenedlaethol/sylfaenol a rhaglenni/strategaethau dysgu eraill perthnasol.
  • Dealltwriaeth dda o ddatblygiad a phrosesau dysgu plentyn.
  • Deall fframweithiau statudol perthynol i addysgu.
  • Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
  • Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a'ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rheiny.

Swydd Ddisgrifiad

PWRPAS SWYDD
  • Cyflenwi gwaith proffesiynol athro drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan gyfundrefn oruchwylio gytøn. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu dymor byr ar gyfer dosbarthiadau cyfan a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.
  • Yn gyfrifol am reoli a datblygu maes arbenigol o fewn yr ysgol a/neu reoli cymorthyddion addysgu eraill, yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.
  • Darparu anogaeth ddysgu o ansawdd i grŵp penodol o ddysgwyr.

PRIF DDYLETSWYDDAU

Cefnogaeth i Ddisgyblion
  • Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu'r disgyblion.
  • Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda'r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.
  • Datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg Unigol (CAU).
  • Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.
  • Cefnogi'r disgyblion yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.
  • Annog y disgyblion i ryngweithio a gweithio'n gydweithredol ag eraill ac ymrwymo pob disgybl mewn gweithgareddau.
  • Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau i adnabod a gwobrwyo cyflawniad a hunan-ddibyniaeth.
  • Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.

Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes
  • Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.
  • O fewn cyfundrefn gytøn o oruchwylio, cynllunio nodau addysgu a dysgu heriol i werthuso ac addasu cynlluniau gwersi/gwaith fel y bo'n briodol.
  • Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau dysgu drwy ystod o strategaethau asesu a monitro yn erbyn nodau dysgu a ragbenodwyd.
  • Darparu adborth gwrthrychol a chywir ac, yn ôl y gofyn, adroddiadau ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.
  • Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad mewn gwersi/gweithgareddau a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a chyrhaeddiad.
  • Gweithio o fewn polisi disgyblaeth sefydledig i ragweld a rheoli ymddygiad yn adeiladol, gan hybu hunan-reolaeth ac annibyniaeth.
  • Cefnogi rhan rhieni yn nysgu'r disgyblion a chyfrannu tuag at gyfarfodydd/arwain cyfarfodydd gyda rhieni i ddarparu adborth adeiladol ar gynnydd/cyflawniad disgyblion, ayyb.
  • Gweinyddu ac asesu/marcio profion a goruchwylio arholiadau/profion.
  • Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau, ayyb.

Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
  • O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i'r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion y disgyblion.
  • Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, a gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygiad sgiliau disgyblion.
  • Defnyddio TGaCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
  • Dethol a pharatoi adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.
  • Cynghori ar leoli a defnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.

Cefnogaeth i'r Ysgol
  • Cydymffurfio a chynorthwyo gyda datblygu polisïau a gweithdrefnau perthynol i amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cydgyfrinachedd a gwarchod data, adrodd ar bryderon i'r person priodol.
  • Bod yn ymwybodol a chefnogi gwahaniaeth, a sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu.
  • Cyfrannu tuag at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
  • Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â'r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
  • Defnyddio blaengaredd fel y bo'n briodol i ddatblygu dulliau amlasiantaethol priodol i gefnogi disgyblion.
  • Adnabod hunan-gryfderau ac ardaloedd o arbenigedd a defnyddio'r rhain i arwain, cynghori a chefnogi eraill.
  • Cyflwyno gweithgareddau dysgu y tu allan i'r ysgol o fewn y canllawiau a sefydlwyd gan yr ysgol.
  • Cyfrannu at adnabod a gweithredu gweithgareddau dysgu priodol y tu allan i'r ysgol sy'n cadarnhau ac yn ymestyn gwaith yn y dosbarth.

Cyfrifoldebau Rheoli Llinell Lle bo'n Briodol
  • Rheoli cymorthyddion addysgu eraill.
  • Cysylltu rhwng rheolwyr/staff addysgu a chymorthyddion addysgu.
  • Cynnal cyfarfodydd tîm rheolaidd gyda staff a reolir.
  • Cynrychioli cymorthyddion addysgu mewn cyfarfodydd priodol addysgu staff/rheoli/arall.
  • Ymgymryd â recriwtio/anwytho/gwerthuso/hyfforddi/mentora ar gyfer cymorthyddion addysgu eraill.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi