MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: Leadership 11 - 15 | £67,531 - £74,384
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 08 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Leadership 11 - 15 | £67,531 - £74,384
Mae Ysgol Croesyceiliog yn dymuno penodi Pennaeth Cynorthwyol eithriadol ac uchelgeisiol i ymuno â'n tîm arweinwyr hynod lwyddiannus wrth i ni gychwyn ar y cam nesaf yn ein datblygiad. Yn dilyn arolygiad cadarnhaol iawn gan Estyn a chyfnod o welliant parhaus, rydym wedi ymrwymo i sicrhau rhagoriaeth ym mhob agwedd ar fywyd ysgol a sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial.Mae hwn yn gyfle cyffrous i arweinydd rhagorol sydd â hanes profedig o wella canlyniadau, gyrru safonau uchel o addysgu a dysgu, ac ysbrydoli cydweithwyr trwy arweinyddiaeth gref, sy'n seiliedig ar werthoedd. Gan weithio'n agos gyda'r Pennaeth a'r Dirprwy Benaethiaid, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl strategol allweddol wrth lunio cyfeiriad yr ysgol yn y dyfodol, arwain y blaenoriaethau i wella'r ysgol, a chyfrannu at ddatblygiad parhaus cymuned ddysgu gynhwysol, sy'n perfformio'n uchel.
Mae'r rôl yn galw am addysgwr angerddol sy'n gallu arwain trwy esiampl, hyrwyddo addysgu a dysgu proffesiynol o ansawdd uchel, a chefnogi'r gwaith o ddatblygu cwricwlwm sy'n adlewyrchu dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymroddgar i feithrin diwylliant o welliant parhaus, atebolrwydd a chydweithredu, a hynny oll wrth hyrwyddo lles, cyflawniad a datblygiad personol pob dysgwr.
Yn Ysgol Croesyceiliog, mae ein gwerthoedd, sef Dysgu, Parch ac Uchelgais, yn sail i bopeth a wnawn. Rydym yn falch o'n hethos cynhwysol, perthnasoedd cryf, gofal bugeiliol rhagorol ac ymrwymiad i ddarparu ystod gyfoethog o gyfleoedd i'n disgyblion. Rydym yn chwilio am arweinydd sy'n rhannu'r gwerthoedd hyn, un sy'n gallu ysbrydoli eraill, ac ymrwymo i sicrhau bod pob person ifanc yn unigolion hyderus, gwydn ac uchelgeisiol sy'n barod i lwyddo yn y dyfodol pan fyddant yn gadael ein hysgol.
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i wneud cyfraniad sylweddol i ysgol ffyniannus a blaengar a gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr medrus sy'n ymroddgar i gyflawni'r canlyniadau gorau i ddisgyblion a staff.
Hoffem hefyd gynnig dau gyfle i ymweld â'r ysgol, ddydd Mawrth 22 Medi, 12pm - 1pm a dydd Mercher 30 Medi, 9.30am - 11.30am. Cysylltwch â Chynorthwyydd Personol y pennaeth, Mrs Vicky Meddick ar info@croesy.schoolsedu.org.uk os hoffech ragor o wybodaeth neu drefnu ymweliad.
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.