MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: TMS\/UPS plus TLR2
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 18 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: TMS\/UPS plus TLR2
Ail yn yr adran SaesnegA hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy'n hyrwyddo arloesedd i'r dyfodol?
Yn dilyn penodiad yr arweinydd presennol i rôl Pennaeth Adran, rydym yn chwilio am unigolyn ymroddedig ac ysgogol i ymgymryd â'r rôl ail yn yr adran Saesneg. Mae hyn yn rôl allweddol ac yn gyfle ardderchog i athro/athrawes ddatblygu ei gyrfa yma yng Ngwynllyw
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym wedi cyflwyno cynllun 'amser aur' i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle'r ysgol unwaith pob tair wythnos.
Rydym yn awyddus i benodi ail yn yr adran Saesneg i gydweithio'n agos gyda'r pennaeth adran.
Bydd y person llwyddiannus yn rhan o dîm ieithoedd a chyfathrebu'r ysgol ac yn cyfrannu at addysgu ar draws yr ystod oedran. Mae hwn yn gyfle arbennig i athro/awes sydd yn awyddus i ddatblygu fel arweinydd a chyfrannu'n llawn at fywyd Ysgol Gymraeg Gwynllyw.
Bydd y rôl yn cynnwys cynllunio a darparu dysgu ac addysgu effeithiol, monitro cynnydd disgyblion, yn ogystal â defnyddio ystod o strategaethau asesu i gefnogi dysgu a chynnydd. Disgwylir i'r athro neu'r athrawes arwain datblygiad proffesiynol parhaus a chyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol a chydweithio â chydweithwyr i wella dysgu a lles disgyblion. Bydd cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus dirprwyo i'r pennaeth adran fel yr angen.
Disgwylir i berson sy'n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni'r gofynion isod:
- Brwdfrydedd ac angerdd dros y Saesneg
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau diweddar o fewn y pwnc
- Dealltwriaeth dda o addysgu effeithiol
- Y gallu i ysbrydoli a chymell disgyblion i gyflawni eu potensial
- Medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
- Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol
- Dealltwriaeth gadarn o dracio cynnydd effeithiol
- Dealltwriaeth gadarn o safonau rhagorol o fewn y pwnc a thu hwnt
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm
Prif gyfrifoldebau
Dysgu ac addysgu
- Arwain y dysgu ac addysgu ar gyfer Bl 7 - Bl 9.
- Rhannu arfer dda yn briodol.
- Cymryd cyfrifoldeb dros a chydlynu safonau Bl 7 - Bl 9. Cyd-lynu cynlluniau gwaith Bl 7 - Bl 9.
- Cyfrannu at gyfarfodydd lles ac ADY ar gyfer disgyblion Bl 7 - Bl 9.
- Cydweithio gyda'r pennaeth adran er mwyn cydlynu'r gwaith pontio, gan gynnwys arwain y sesiynau MATh fel rhan o'r cynllun pontio.
Asesu a monitro
- Cyfrannu at adroddiad hunanwerthuso'r adran drwy lunio arfaniad o safonau, dysgu ac addysgu ar gyfer Bl 7 - Bl 9.
- Cyfrannu at weithgareddau hunanwerthuso adrannol / MDaPh neu ysgol-gyfan lle'n briodol.
- Tracio safonau a monitro ansawdd llyfrau / gwaith.
- Arwain a chyd-lynu trefniadau safoni Bl 3 - Bl 9.
Dysgu proffesiynol
- Cydweithio gyda'r pennaeth adran er mwyn sicrhau bod ffocws priodol yn ystod cyfarfodydd adran ar ddysgu proffesiynol, dysgu ac addysgu.
Arweinyddiaeth
- Dirprwyo yn absenoldeb y pennaeth adran, gan gynnwys arwain cyfarfodydd adran lle'n briodol.
- Cyfrannu at lunio agenda cyfarfodydd ac arwain yr agweddau perthnasol yn ystod cyfarfodydd.
- Cymryd cyfrifoldeb am agweddau penodol o gynllun datblygu'r adran.
Eraill
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol sy'n gymesur â gradd y swydd nag sydd wedi nodi uchod yn ôl cyfarwyddyd Arweinydd yr adran.
- Datblygu cyfleoedd allgyrsiol yr adran.
Sut i Ymgeisio
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon, cyflwynwch cais yn amlinellu eich gweledigaeth ar gyfer y swydd yn nodi sut mae eich profiad hyd yma yn eich paratoi ar gyfer y rôl hon. Os hoffech wybod mwy am y rôl, mae croeso i chi gysylltu gyda'r pennaeth Catherine Evans (yggswyddfa@gwynllyw.cymru).
Dyddiad cau: 18.9.26
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.
Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.