MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon a Lwfans ADY
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 18 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu (ASD) Ysgol Gynradd Williamstown

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon a Lwfans ADY

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002642 Dyddiad postio 04/09/2026 Dyddiad cau ceisiadau 18/09/2026 Cyflog Graddfa Cyflog Athrawon a Lwfans ADY Oriau gwaith 6.5 Ar sail Rhan amser Categori/math o swydd Education - Teaching Atodiadau Ffeil JD - Teacher Williamstown - September 2026.doc JD - Teacher Williamstown - September 2026_CY-GB.doc

Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu (ASD) Ysgol Gynradd Williamstown

Disgrifiad Swydd
Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig) Wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Williamstown

Oriau: 6 1/2 awr yr wythnos (0.2 FTE)

Contract: Parhaol

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon a Lwfans ADY

Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf eisiau penodi athro dosbarth rhagorol a llawn cymhelliant i weithio yn y Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Williamstown. Mae'r disgyblion yn y dosbarth rhwng 7 ac 11 oed.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos profiad o ystod o strategaethau addysgu, dysgu, asesu a rheoli ymddygiad gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i gael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion ag awtistiaeth.

Ydych chi'n berson arloesol, brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymrwymiad? Oes gyda chi dystiolaeth gadarn o'r gallu i weithio ar y cyd yn rhan o garfan? Pe gallech chi wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad ein disgyblion, hoffen ni glywed gennych chi.

Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC179GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Williams, y Gwasanaeth Cynnal Dysgu, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ, neu anfon e-bost: Rachel.williams3@rctcbc.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Medi 2026, Hanner Nos.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.