MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Llandwrog,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: £22,581 - £22,893 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 16 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2 (32 awr) a Cymhorthydd Clwb Brecwast (5 awr) Ysgol Llandwrog

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £22,581 - £22,893 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG
YSGOLION CYNRADD

CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2 (32 AWR) A CYMHORTHYDD CLWB BRECWAST (5 AWR)

YSGOL LLANDWROG
(Cynradd 3 - 11 oed: 44 o ddisgyblion)

Ysgol Gynradd Wirfoddol dan Reolaeth yr Eglwys yng Nghymru

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 Lefel 2 (sef £19,677 - £19,989 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster ar gyfer y swydd Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2 a Graddfa GS1 pwynt 3 (sef £2,904 y flwyddyn).

Yn eisiau: Cyn gynted a phosib

Swydd barhaol yw hon.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos; 32 awr yr wythnos fel Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2 (39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd) a 5 awr Cymhorthydd Clwb Brecwast (38 wythnos tymor Ysgol yn unig).

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Miss Carys Thomas. Rhif Ffôn 01286 830223 e-bost: carys.thomas@llandwrog.ysgoliongwynedd.cymru

Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Elen Jones, Uwch Swyddog Busnes Ysgolion. Rhif ffon 01758 704047 e-bost: elenjones2@gwynedd.llyw.cymru

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.

DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD MERCHER, 16 MEDI 2026.

(This is an advertisement for a Learning Support Assistant Level 2 (32 hours) and Breakfast Club Supervisor at Ysgol Llandwrog for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

SAFONAU PROFFESIYNOL CCD.pdf

Manylion Person

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2:

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.

• Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm.

• Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau

• Brwdfrydig a hyblyg

• Personoliaeth Ddigynnwrf

• Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

• Sgiliau rhif/llythrennedd da.

• NVQ2 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster cyfwerth, neu yn fodlon ymgymryd â'r cwrs yn dilyn penodiad.

DYMUNOL

• Wedi dilyn hyfforddiant llwybr dysgu i gymorthyddion dysgu - 'Rhaglen Ymsefydlu'

• Hyfforddiant cymorth cyntaf

• Hyfforddiant Amddiffyn Plant

• Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd/ rhifedd

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

• Gweithio gyda phlant o'r oedran priodol neu ofalu amdanynt.

DYMUNOL

• Profiad o weithio gyda grwpiau bychain o blant

• Profiad o waith cynorthwyo mewn dosbarth

• Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

• Deunydd effeithlon o TGaCh

• Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da

• Y gallu i sefydlu a chynnal perthynas dda gyda eraill.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon e-bost ac adroddiadau byr, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwyddi'r maes gwaith. (Bydd angen gwirio cyn eu hanfon allan).

Cymhorthydd Clwb Brecwast:

Nodweddion personol

Dymunol

Gallu gweithredu fel aelod o dîm (Tîm Ysgol a Thîm Cegin)

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol

Cymhwyster Glendid Bwyd Sylfaenol neu ymrwymiad i basio'r cwrs ymhen 3 mis o'r apwyntiad.

Dymunol

Hyfforddiant mewn sgiliau coginio a gweini bwyd

Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf

Hyfforddiant mewn sgiliau marchnata

Profiad perthnasol

Dymunol

Profiad o weithio mewn cegin

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Dymunol

Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da

Sgiliau cyfathrebu da

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.

Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.

Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad
Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2:

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol.

• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.

• Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn

Prif Ddyletswyddau.

• Goruchwylio a darparu cefnogaeth ar gyfer disgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.

• Gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol- yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.

• Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.

• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.

• Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes.

• Sefydlu perthynas dda gyda'r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.

• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.

• Gosod disgwyliadau uchel a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.

• Hwyluso cynnwys a derbyn pob disgybl o fewn y dosbarth, gan hybu annibyniaeth.

• Dan arweiniad yr athro/athrawes, darparu adborth i ddisgyblion.

• Cydweithio gyda'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol.

• Cynorthwyo i glirio'r dosbarth a chynorthwyo gydag arddangos gwaith y disgyblion.

• Sicrhau adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes, gan adrodd ar ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu, cynnydd, a lles disgyblion

• Hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.

• Cefnogi strategaethau dysgu amrywiol dan arweiniad athro/athrawes.

• Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu.

• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.

• Cysylltu'n broffesiynol â rhieni, gofalwyr dan arweiniad yr athro/athrawes.

• Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.

• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder.

• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.

• Mynychu cyfarfodydd perthnasol.

• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.

• Cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg.

Cyffredinol

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol ar Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol â chais y Rheolwr.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor/Ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr ysgol/ Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr ysgol/ Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Cymhorthydd Clwb Brecwast:

Pwrpas y swydd

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Paratoi bwyd syml ar gyfer brecwast, gweini bwyd, gosod y ffreutur a chlirio ar ol brecwast. Golchi'r offer a glanhau'r gegin ar ffreutur.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

•Offer

Prif ddyletswyddau

• Gweithio dan gyfarwyddid y Cogydd a Gofal neu'r Dirpwy.
• Paratoi bwyd syml ar gyfer brecwast a gweini'r bwyd.
• Yn cadw holl adeiladau ag offer y gegin yn lan, gan gynnwys y ffreutur.
• Glanhau llawr y ffreutur gan lanhau pob tamaid o fwyd gan ddefnyddio mop tamp os bydd angen.
• Gwneud dyletswyddau cyffrediniol yn y gegin a'r ffreutur, megis golchi llestr, gosod a chlirio dodrefn ffreutur.
• Bydd y Cymorthydd Cyffredinol yn cymryd gofal o'r gegin yn ystod cyfnod brecwast yn absenoldeb y Cogydd.
• Cynnal safon uchel o lendid personol a gwisgo gwisg cegin lan briodol.
• Cydymffurfio a pholisïau Iechyd a Diogelwch a Diolgwlech Bwyd Cyngor Gwynedd.
• Yn cyflawni unrhyw ddelytswyddau perthnasol yn ôl cais rhesymol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.

Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi