MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Hourly rate: £13.92 | Grade 2
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 11 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwylydd Ganol-Dydd - Ysgol Gymraeg Bryn Onnen

Torfaen Local Authority

Cyflog: Hourly rate: £13.92 | Grade 2

Dros Dro - Cyflog mamolaeth tan 31 Rhagfyr 2026

8.75 awr yr wythnos (11:45 AM i 1:30 PM)

2.5 awr ychwanegol o bosibl fel Cynorthwyydd Clwb Brecwast (Gradd 1) (8:30 AM i 9:00 AM)

Mae Ysgol Bryn Onnen yn chwilio am unigolyn gofalgar a brwdfrydig i ymuno â'n tîm o oruchwylwyr ganol-dydd. Mae'r rôl hon yn hanfodol yn yr ysgol i sicrhau diogelwch pob disgybl yn ystod eu hawr ginio.

Darperir hyfforddiant a sefydlu ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r rôl yn cynnwys goruchwylio a chefnogi disgyblion wrth iddynt fwyta a chwarae yn ystod amser cinio. Mae hyn yn cynnwys cefnogi disgyblion ag anghenion ychwanegol cymhleth wrth iddynt fwyta a a chwarae. Mae'r gallu i weithio yn rhan o dîm, dilyn cyfarwyddiadau a gweithio'n hyblyg o fewn y rôl yn nodweddion allweddol a ddylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae sgiliau cyfathrebu da yn bwysig i'r rôl yn ogystal â bod yn brydlon ac yn ddibynadwy.

Mae Ysgol Bryn Onnen yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol; fodd bynnag, gellir darparu cyfleoedd hyfforddi er mwyn i rywun sydd ddim yn siarad Cymraeg ddatblygu eu sgiliau iaith ar ôl iddynt gael eu penodi.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, mae croeso i chi gysylltu â Rhys ap Gwyn - 01495 772284.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.