MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Casual | £13.90 - £14.82 per hour
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Dysgu Ysbeidiol, Lefel 2 – Ysgol Crownbridge

Torfaen Local Authority

Cyflog: Casual | £13.90 - £14.82 per hour

Bydd ymgeiswyr yn gweithio i gefnogi disgyblion 2-19 oed sydd ag anawsterau dysgu dwys a chymhleth. Dylent fod yn ddibynadwy, yn wydn ac yn hyblyg a gweithio'n dda fel rhan o dîm.

Dylai pob ymgeisydd feddu ar:-
  • Brofiad o blant / pobl ifanc gydag anghenion addysg arbennig - angen sylfaenol gwybyddiaeth a dysgu
  • Profiad o ymdrin ag anghenion gofal personol plant ac oedolion ifanc;
  • Gallu i gefnogi ymddygiad a lles / datblygiad emosiynol disgyblion;
  • Y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau ac awydd i hybu eu datblygiad proffesiynol;
  • Brwdfrydedd a dull cydwybodol;
  • Y gallu i gofleidio newid a chyfrannu at ddatblygiad ysgol

Mae'r swyddi yma'n cynnig cyfle i'r ymgeisydd ymuno â thîm arloesol, bywiog.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio fel Cynorthwyydd Dysgu Ysbeidiol Lefel 2, dewch i un o'r sesiynau isod sydd ar ddydd Llun ac yn dechrau'n brydlon am 4.00 pm.

14 eg Medi 2026 / 12 fed Hydref 2026 / 16 eg Tachwedd 2026 / 18 fed Ionawr 2027

8 fed Mawrth 2027 / 19 eg Ebrill 2027 / 17 eg Mai 2027 / 21 ain Mehefin 2027

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.