MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans ADY
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 11 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Teacher of Learning Support Class (Autistic Spectrum Disorder)
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans ADY
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ002626 Dyddiad postio 28/08/2026 Dyddiad cau ceisiadau 11/09/2026 Cyflog Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans ADY Oriau gwaith 32.5 Ar sail Amser Llawn Categori/math o swydd Education - Teaching Atodiadau Ffeil JD - Teacher YAW - September 2026.docx JD - Teacher YAW - September 2026_CY-GB.docx
Teacher of Learning Support Class (Autistic Spectrum Disorder)
Disgrifiad Swydd
Athro Dosbarth Cynnal Dysgu (Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig) yn Ysgol Afon Wen
(Dros dro, Cyfnod Mamolaeth)
Prif Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans ADY - £2,838
Oriau: 32 ½ awr yr wythnos
Dyddiad dechrau: 1 Ionawr 2027
Mae'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant yn gobeithio penodi athro dosbarth eithriadol a chryf eu cymhelliad i ymuno â'r Dosbarth Cynnal Dysgu uwchradd ar gyfer plant sydd ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Afon Wen. Mae'r dosbarth yn cefnogi tua 12 disgybl ar hyn o bryd (rhwng Blwyddyn 7 a Blwyddyn 11) ac mae gyda nhw ddau Gynorthwy-ydd Cynnal Dysgu.
Rydyn ni'n chwilio am ymarferydd, brwdfrydig sydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen er mwyn rhoi strategaethau dysgu, addysgu, asesu a rheoli ymddygiad effeithiol ar waith ar lawr y dosbarth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymo i gyflawni deilliannau cadarnhaol a chefnogi cynnydd a lles y disgyblion ag awtistiaeth.
Ydych chi'n weithiwr proffesiynol brwdfrydig ac arloesol sy'n arddangos ymrwymiad cryf i wneud gwahaniaeth? Oes gyda chi dystiolaeth gadarn o'r gallu i weithio ar y cyd yn rhan o garfan amlddisgyblaethol? Os felly, bydden ni'n croesawu'ch cais ac rydyn ni'n edrych ymlaen at glywed sut y gallwch chi gyfrannu at ddatblygiad parhaus a llwyddiant ein disgyblion.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Williams: Rachel.williams3@rctcbc.gov.uk
Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, dylech chi ymgeisio am y swydd gan ddefnyddio eich cyfrif hunanwasanaeth gweithwyr, nid y ddolen isod. Os ydych chi'n wynebu unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich Cyfrif Hunanwasanaeth Gweithwyr, cysylltwch â Charfan Gweinyddu iTrent drwy ffonio 01443 680760 neu e-bostio: itrentadmin@rctcbc.gov.uk
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y swydd, ffoniwch Rachel Williams ar Rachel.williams3@rctcbc.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (12am) ar 11th Medi 2026.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.