MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £13.69 - £14.13 yr awr / per hour
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 11 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £13.69 - £14.13 yr awr / per hour
Ynglŷn â'r RôlOriau rhyddhad
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Cymorth i ddisgyblion:
Meithrin perthnasoedd gwaith cynhyrchiol â disgyblion, dangos esiampl a gosod disgwyliadau uchel
Hyrwyddo cynhwysiant a derbyniad pob disgybl o fewn yr ystafell ddosbarth
Rhoi cymorth cyson i ddisgyblion gan gydnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol
Annog disgyblion i ryngweithio a chydweithio ag eraill a chynnwys yr holl ddisgyblion mewn gweithgareddau
Hyrwyddo annibyniaeth a defnyddio strategaethau i gydnabod a gwobrwyo dod yn hunan-ddibynnol
Rhoi adborth i ddisgyblion ar eu cynnydd a'u cyflawniad
Cymorth i'r athrawon:
Gweithio gyda'r athro i sefydlu amgylchedd dysgu priodol
Gweithio gyda'r athro i gynllunio gwersi, gan werthuso ac addasu cynlluniau gwaith/gwersi fel sy'n briodol
Monitro a gwerthuso ymatebion disgyblion i weithgareddau dysgu trwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn ôl yr amcanion dysgu a bennwyd.
Rhoi adroddiadau ac adborth cywir a gwrthrychol yn ôl y gofyn i'r athro ar gyrhaeddiad a chynnydd disgyblion a materion eraill, gan sicrhau bod tystiolaeth briodol ar gael
Bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion fel y cytunwyd arnynt gyda'r athro, gan gyfrannu at adolygiadau o systemau/cofnodion yn ôl y gofyn
Ymgymryd â marcio gwaith disgyblion a chofnodi cyflawniad/cynnydd yn gywir
Hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol, agweddau ac ymddygiad da disgyblion, gan ddelio yn brydlon â gwrthdaro a digwyddiadau yn unol â'r polisi sefydledig ac annog disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad eu hunain
Cysylltu'n sensitif ac yn effeithiol â rhieni/gofalwyr fel y cytunwyd â'r athro o fewn eich rôl/cyfrifoldeb a chymryd rhan mewn sesiynau/cyfarfodydd adborth gyda rhieni gyda, neu fel y cyfarwyddyd
Rhoi cymorth clercaidd/gweinyddol cyffredinol e.e. gweinyddu gwaith cwrs, creu taflenni gwaith ar gyfer gweithgareddau fel y cytunwyd ac ati
Cymorth o ran y cwricwlwm:
Gweithredu gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt, gan addasu gweithgareddau yn ôl ymatebion/anghenion y disgybl
Rhoi strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol ar waith, e.e. llythrennedd, rhifedd, CA3 a'r blynyddoedd cynnar, a gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a gynigir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau perthnasol.
Cynorthwyo defnyddio TGCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion wrth ei defnyddio
Helpu disgyblion i fanteisio ar weithgareddau dysgu trwy gymorth arbenigol
Penderfynu ar yr angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a'u cadw mewn cyflwr da
Cymorth i'r ysgol:
Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant, iechyd, diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â nhw, gan roi gwybod am unrhyw bryderon i unigolyn priodol
Bod yn ymwybodol o wahaniaeth a'i gefnogi, a sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael mynediad cyfartal at gyfleoedd i ddysgu a datblygu
Cyfrannu at ethos/gwaith/nodau cyffredinol yr ysgol
Meithrin perthynas adeiladol a chyfathrebu ag asiantaethau/gweithwyr proffesiynol eraill, mewn cydweithrediad â'r athro, er mwyn cefnogi cyrhaeddiad a chynnydd y disgyblion
Mynd i gyfarfodydd yn rheolaidd a chyfrannu atynt
Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill yn ôl y gofyn
Deall eich cryfderau a'ch meysydd arbenigedd eich hun a'u defnyddio i gynghori a chefnogi eraill
Rhoi arweiniad a goruchwyliaeth briodol a chynorthwyo i hyfforddi a datblygu staff fel sy'n briodol
Goruchwylio gweithgareddau dysgu a gynllunnir y tu allan i oriau ysgol
Goruchwylio disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol yn ôl y gofyn
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Amdanom ni - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweinyddu gwasanaethau amrywiol sy'n helpu i wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau o'n cwmpas. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy gydweithredu gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda phwyslais ar ddatblygiad cynaliadwy, lles y gymuned a chyfleoedd cyfartal i bawb, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Yn y Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, cefnogi twf personol a phroffesiynol, ac yn darparu amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Wrecsam a thros y rhanbarth ehangach.
About Us - Wrexham County Borough Council
Wrexham County Borough Council delivers a wide range of services aimed at improving the lives of Wrexham residents and surrounding communities. We are committed to providing high-quality services through collaboration with local and national partners. With a focus on sustainable development, community wellbeing, and equal opportunities for all, Wrexham is a fantastic place to work, live, and learn.
At the Council, we value diversity, support personal and professional growth, and offer a flexible and supportive working environment. Join us to make a real difference in the lives of people in Wrexham and the wider region.