MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Cardigan,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: 25,185 *
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 06 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 25,185 *
Ynglŷn â'r rôlYdych chi'n berson brwdfrydig, egnïol sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau plant? Hoffech chi ymuno ag ysgol hapus, ofalgar a llwyddiannus lle mae lles a chynnydd pob disgybl yn ganolog i bopeth a wnawn?
Mae Ysgol Gymunedol Penparc yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 medrus i ymuno â'n tîm ymroddedig mor fuan â phosib, am gyfnod o flwyddyn i gychwyn. Gyda 128 o ddisgyblion ar y gofrestr, rydym yn gymuned glos sy'n rhoi pwyslais ar ofal, cydweithio a chreu cyfleoedd dysgu cyffrous i bawb.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi dysgu a datblygiad disgyblion ac yn cyd-weithio i gefnogi disgybl sydd ag amhariad golwg am un diwrnod yr wythnos.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd hon.
Disgwyliadau'r rôl:
- Cefnogi disgyblion, gan gynnwys rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, mewn amgylchedd diogel a chynhwysol.
- Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion a'u hannog i gymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu.
- Hyrwyddo hunan-barch, annibyniaeth a chydweithio ymhlith disgyblion.
- Gweithio'n agos gydag athrawon i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu ystyrlon.
- Bod yn rhan weithgar o dîm cefnogol ac ymroddedig.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
- Yn gallu adeiladu perthnasau cadarn dros ystod oedran a gallu.
- Yn gweithio'n hyblyg ac yn gadarnhaol fel rhan o dîm.
- Yn meddu ar gymhwyster CGC2 neu brofiad cyfatebol.
Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn fantais, ond nid yn hanfodol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o fanylion, mae croeso cynnes i chi gysylltu gyda'r Pennaeth Bethan Morgan-Jenkins drwy e-bost: prif@penparc.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant