MANYLION.
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: £37,280 - £39,862 y flwyddyn (G07)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Datblygu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £37,280 - £39,862 y flwyddyn (G07)

Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn

Gwneud Gwahaniaeth. Ysbrydoli Newid. Datblygu Teimlad o Berthyn.

Ydych chi'n angerddol dros rymuso pobl ifanc a chreu cyfleoedd sy'n eu helpu i ffynnu? Oes gennych yr egni, y creadigrwydd a'r ymrwymiad i ymgysylltu â phobl ifanc, sefydlu partneriaethau cryf a chefnogi canlyniadau cadarnhaol ar draws cymunedau?

Rydym yn edrych am Swyddog Datblygu brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn.

Fel Swyddog Ieuenctid, Ymgysylltu a Datblygu, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a darparu cyfleoedd o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc. Gan weithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd, ysgolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau partner, byddwch yn cefnogi mentrau sy'n annog cyfranogiad, datblygu hyder a chryfhau synnwyr o berthyn.

Byddwch yn helpu i ddylunio a chyflwyno rhaglenni diddorol, cefnogi llais a chyfranogiad ieuenctid, datblygu partneriaethau, a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
  • Yn meddu ar brofiad o ddatblygu gwasanaethau
  • Yn gallu ymgysylltu ac ysbrydoli pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol.
  • Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a ffurfio perthnasau gwych.
  • Yn greadigol, yn drefnus ac yn gallu rheoli llwyth gwaith amrywiol.
  • Yn deall pwysigrwydd diogelu a hyrwyddo lles.
  • Yn gweithio'n effeithiol yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Yn ymroddedig i gynhwysiant, cyfranogiad a grymuso pobl ifanc.
  • Yn meddu ar sgiliau casglu data cryf.
Os ydych yn angerddol dros helpu pobl ifanc i ddatblygu eu potensial, cryfhau cymunedau a chreu cyfleoedd ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn, byddem wrth ein boddau'n clywed gennych chi.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Rachel Simmonds, Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid, Ymgysylltu a Pherthyn (rachel.simmonds@conwy.gov.uk / 01492 577880)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.

Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.