MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Cardigan,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: 52,680 - 58,136 *
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 27 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 52,680 - 58,136 *
Ynglŷn â'r rôlYn eisiau o Ionawr 2027 neu cyn gynted â phosib - Swydd Llawn Amser, Parhaol.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth brwdfrydig, angerddol a blaengar sydd yn barod i gefnogi a hyrwyddo gweledigaeth yr ysgol er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o dîm brwdfrydig a gweithgar, yn cydweithio'n agos i ddarparu cefnogaeth a chymorth i'r Pennaeth ac yn cynorthwyo i reoli'r ysgol yn effeithiol ac yn effeithlon yn absenoldeb y Pennaeth. Yn ogystal, bydd gan y Dirprwy Bennaeth ymrwymiad addysgu, a byddai arbenigedd ym maes ADY yn fanteisiol.
Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol ac ysgogol, ac arweinydd effeithiol, sy'n hyrwyddo addysgeg o'r radd flaenaf. Bydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg, ynghyd â sgiliau rheolaethol cadarn a phersonoliaeth gynnes a hawddgar.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle euraidd i unigolyn brwdfrydig ac uchelgeisiol weithio mewn ysgol gymunedol lwyddiannus sydd o fewn tafliad carreg i dref Aberteifi. Bydd yn cynnig profiad gwerthfawr i unigolyn sy'n awyddus i arwain, arloesi a chyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygiad parhaus yr ysgol.
Fe fydd yr unigolyn yn:
- dylanwadu ar gydweithwyr drwy osod esiampl fel model rôl trefnus a chydwybodol;
- bod yn barod i weithio fel rhan o uwch dîm rheoli cadarn;
- hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb;
- ymgynghori â'r Pennaeth a chynnig cyngor adeiladol mewn meysydd a fyddai'n fanteisiol i'r ysgol;
- cydweithio â staff, disgyblion a rhieni i hyrwyddo awyrgylch gynhwysol ac ethos gwaith effeithiol;
- bod yn gymwys i ddirprwyo ar ran y Pennaeth mewn sefyllfaoedd sy'n codi o ganlyniad i absenoldebau neu gyfrifoldebau eraill y Pennaeth;
- arwain ar faes arbenigedd o fewn cynlluniau strategol a phrosesau gwerthuso a gwella'r ysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
- gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant a datblygiad parhaus yr ysgol, gan wreiddio ei rôl ganolog o fewn y gymuned leol;
- dealltwriaeth o arferion dysgu ac addysgu effeithiol, ac ymrwymiad cryf i barhau i'w datblygu ar draws yr ysgol gyfan;
- medrau cyfathrebu, rhyngbersonol, rheoli a threfnu cadarn;
- angerdd dros hyrwyddo'r Gymraeg fel rhan ganolog o fywyd a gwaith yr ysgol;
- gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol sy'n seiliedig ar ymchwil;
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm effeithiol;
- ymrwymiad cryf i gryfhau'r cysylltiadau â'r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion lleol a phartneriaid ehangach.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Dyddiad cau: Canol nos Sul, 27 Medi 2026 am 11:59yh
Dyddiad cyfweld: Dydd Llun 5 Hydref 2026
Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i gysylltu â'r Pennaeth, Bethan Morgan-Jenkins, am drafodaeth anffurfiol ar prif@penparc.ceredigion.sch.uk neu drwy ffonio 01239 810586.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant