MANYLION.
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 24,413 *
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 20 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Clwb Ar ôl Ysgol x 2 - Ysgol Gynradd Wirfoddol Myfenydd

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 24,413 *

Ynglŷn â'r rôl
Am y rôl

Rydym yn chwilio am ddau berson egniol a brwdfrydig i redeg clwb ar ôl ysgol. I gychwyn rydym yn treialu dau ddiwrnod - Dydd Llun a Dydd Mercher 3.30 - 5.15 o'r gloch gyda'r gobaith y bydd galw am fwy o ddiwrnodau. Rydym yn gobeithio y bydd gweithgareddau hwyliog amrywiol a drefnir gan ein arweinwyr clwb a chyfle i ymlacio ar ôl diwrnod ysgol o fewn y clwb yn apelio i'r plant ac y bydd nifer yn manteiso ar y cyfle i fynychu.

Mi fydd y tâl yn unol â thâl lefel 2 ar y raddfa dâl cynorthwyyr dosbarth ac mi fydd y cytundeb yn un tymor yn unig ac yn un sero awr i gychwyn.

Prif Gyfrifoldebau
  • Goruchwylio a chynnwys plant mewn amrywiaeth o weithgareddau.
  • Cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol plant.
  • Cynorthwyo gyda pharatoi a chyflwyno gemau, crefftau a chwarae awyr agored.
  • Darparu lluniaeth a chynnal amgylchedd glân a diogel.
  • Dilyn polisïau diogelu, iechyd a diogelwch, a chlwb bob amser.
  • Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, rhieni a chydweithwyr.

Amdanoch Chi

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
  • Yn mwynhau gweithio gyda phlant a'u helpu i ffynnu.
  • Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Yn ddibynadwy, yn frwdfrydig, ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm.
  • Yn dangos amynedd, caredigrwydd, ac ymagwedd ofalgar.
  • Yn meddu ar brofiad blaenorol o weithio gyda phlant (yn ddymunol ond nid yn hanfodol).

Os ydych am wybodaeth pellach croeso i chi gysylltu gyda'r Pennaeth Miss Anwen James trwy ebost prif@myfenydd.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere... Darllen mwy