MANYLION.
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Gradd 6: £28,142 + ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig: £1,539 x 77.15%
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 11 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu - Ysgol Gynradd Bodringallt

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Gradd 6: £28,142 + ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig: £1,539 x 77.15%

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ002613 Dyddiad postio 14/08/2026 Dyddiad cau ceisiadau 11/09/2026 Cyflog Gradd 6: £28,142 + ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig: £1,539 x 77.15% Oriau gwaith 32.5 Ar sail Rhan Amser yn ystod Tymor yr Ysgol Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil JD - LSA Bodringallt- September 2026_CY-GB.doc JD - LSA Bod September 2026.doc

Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu - Ysgol Gynradd Bodringallt

Disgrifiad Swydd
RHONDDA CYNON TAF COUNCIL

Ysgol Gynradd Bodringallt

Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu

Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Sylfaen ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Bodringallt

Oriau: 32 1/2 awr yr wythnos - tymor yn unig

Cyflog: Gradd 6: £28,142 + Lwfans Dosbarth Arbennig (£1,539) x 77.15%

Rydyn ni'n dymuno cyflogi cynorthwy-ydd cynnal dysgu ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo'r athro/athrawes ddosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a bod yn gefn i'r disgyblion yn eu dosbarthiadau nhw ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd.

Os ydych chi'n angerddol am ddysgu a lles plant ac eisiau eu helpu nhw i ffynnu a llwyddo; yn unigolyn sy'n cael ei arwain gan werthoedd gyda disgwyliadau uchel o gyflawniad am eich hun ac eraill; yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a gwrando ardderchog ac yn gweithio'n dda yn rhan o dîm sy'n fodlon cymryd rhan ym mywyd llawn yr ysgol, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion:

https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC179GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Michael Condon, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Canolfan Menter y Cymoedd ar (01443) 744333.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Medi 2026.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.