MANYLION.
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF240AB
  • Pwnc: Swyddog Cyllid
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: £30755.00 - £34997.00
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 06 Medi, 2026 11:59 y.p
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cyllid

Cyngor y Gweithlu Addysg

Cyflog: £30755.00 - £34997.00

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyllid ysgogedig sy'n canolbwyntio ar fanylion, i ymuno â'n Tîm Cyllid. Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sy'n frwdfrydig dros ddarparu cefnogaeth ariannol o ansawdd uchel a helpu'r sefydliad i gyflawni ei amcanion strategol.

Gan gydweithio'n agos gyda'r rheolwr, cyllid, deiliaid cyllidebau, a chydweithwyr ar draws y sefydliad, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheoli cyllid manwl gywir, monitro cyllidebau yn effeithiol, a chydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau ariannol. Fel Swyddog Cyllid, byddwch yn rhoi cefnogaeth ariannol broffesiynol ar draws nifer o weithgareddau, gan helpu sicrhau llywodraethiant ariannol gadarn a gwerth am arian.

Os ydych chi'n rhagweithiol, trefnus, ac wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau gwych, rydym am glywed gennych.

Mae’r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen ar gyfer y swydd hon fel a ganlyn:

Siarad -Lefel 1
Deall / darllen - Lefel 1
Ysgrifennu - Lefel 1

Mae mwy o fanylion yn y disgrifiad swydd.

Pam gweithio i ni?

Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i gefnogi a meithrin ein cyflogeion i gyflawni eu llawn botensial trwy fuddsoddi mewn twf proffesiynol a bod ag ystod o fuddion ar waith i sicrhau bod ein cyflogeion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u bod yn cael eu clywed. I gael gwybod mwy am weithio i CGA, edrychwch ar ein pecyn i ymgeiswyr.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 06 Medi 2026. Mae ein prosesau recriwtio yn deg, tryloyw a chynhwysfawr, ac ry'n ni'n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Ry'n ni wastad yn chwilio am ystod eang o sgiliau a phrofiadau ac yn falch o fod yn gyflogwr sy’n ymrwymo i fod yn hyderus o ran anabledd.

Am fwy o wybodaeth am y swydd a sut i wneud cais, ewch i’n gwefan yma https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/amdanom-ni/cymryd-rhan/gweithio-i-ni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am weithio i ni neu os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch mewn fformat amgen, cysylltwch â swyddi@cga.cymru