MANYLION.
  • Lleoliad: Blaenau Gwent - Agile Working,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Soulbury A 3 - 8 + SPA £49,215 - £59,809 Y Flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 10 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Seicolegydd Addysg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyflog: Soulbury A 3 - 8 + SPA £49,215 - £59,809 Y Flwyddyn

Mae Cyfarwyddiaeth Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn dymuno penodi Seicolegydd Addysgol brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n Gwasanaeth Seicoleg Addysg ar sail barhaol o 4 Ionawr 2027, neu cyn gynted â phosibl ar ol dyddiad hynu.

Dylai ymgeiswyr fod yn Seicolegwyr Addysgol cymwysedig llawn, fel y'u cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), neu'n Seicolegwyr Addysgol Dan Hyfforddiant yn eu trydedd flwyddyn.

Ynglyn y Rôl

Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn gweithio mewn ysgolion a lleoliadau eraill i gefnogi plant a phobl ifanc. Crynhoir ein gwaith gan dri neges allweddol:
  • adeiladu capasiti drwy ddefnyddio dulliau systemig sy'n seiliedig ar dystiolaeth;
  • ymgynghori gyda staff ysgolion a pobol eraill i helpu i oresgyn rhwystrau i ddysgu; a
  • gweithio ar lefel unigol, gan ddefnyddio damcaniaethau ac arferion seicolegol a therapiwtig i lywio ein gwaith.

Mae'r Gwasanaeth yn cyfrannu at ystod eang o fentrau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn aml ar sail amlasiantaethol. Rydym yn dîm bach, cefnogol a meithringar lle caiff pawb eu hannog i ddatblygu maes o ddiddordeb arbenigol. P'un a ydych yn ymarferydd profiadol neu'n Seicolegydd Addysgol newydd gymhwyso, byddwch yn cael y cyfle i gymhwyso seicoleg mewn ffyrdd creadigol ac effeithiol er mwyn hyrwyddo cynhwysiant, llesiant, dysgu a chanlyniadau cadarnhaol i blant, pobl ifanc, teuluoedd ac ysgolion.

Beth Rydym yn Gynnig

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi Seicolegwyr Addysgol i ffynnu'n broffesiynol ac yn bersonol. Rydym yn cynnig:
  • Gwasanaeth Seicoleg Addysg croesawgar a chefnogol.
  • Goruchwyliaeth broffesiynol o safon uchel a chefnogaeth gan gymheiriaid.
  • Cyfleoedd i ddatblygu diddordebau arbenigol ac arwain meysydd gwaith.
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus a chyfleoedd ymchwil.
  • Trefniadau gweithio hyblyg a hybrid.
  • Rhaglen sefydlu gynhwysfawr ar gyfer Seicolegwyr Addysgol newydd gymhwyso.
  • Mynediad at wasanaethau llesiant i weithwyr.
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
  • Hawliau gwyliau blynyddol hael.

Mae Blaenau Gwent wedi'i lleoli yn Ne Cymru, ar ffin hardd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol drwy'r A465, yr M4 a'r rhwydwaith rheilffyrdd yn golygu bod Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe o fewn cyrraedd hwylus.

Mae'r swydd hon yn gofyn am gofrestriad proffesiynol. Cyfeiriwch at y Manyleb Person am ragor o fanylion.

Gwiriadau Cyn Cyflogaeth. Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o ddarpariaethau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Cynhelir proses sgrinio gynhwysfawr cyn cyflogaeth, a fydd yn cynnwys Datgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) gyda gwiriad Rhestr Waharddedig Plant.

Mae mynediad at gerbyd at ddibenion gwaith yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Am wybodaeth ynghylch ailgyflogi ac ail-ymgysylltu cyn-weithwyr, cyfeiriwch at Bolisi Tâl y Cyngor.

Amdanom Ni

Ym Mlaenau Gwent, rydym yn angerddol am y gwaith a wnawn a'r effaith a gawn. Rydym yn grymuso ein staff i wneud newidiadau ystyrlon a gweithredu i wella ein gwasanaethau.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Eisiau gofyn cwestiwn i ni?

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Rebecca Foster (Principal EP) ( rebecca.foster@blaenau-gwent.gov.uk ) neu Laura Craven (Senior EP) ( laura.craven@blaenau-gwent.gov.uk ).

Dyddiad Cau:

10 Medi 2026 am12:00 hanner nos

Dyddiad Cyfweld:

18 Medi 2026