MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Grŵp 5 L18 - L22\n
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 17 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grŵp 5 L18 - L22\n
Ysgol Dyffryn ConwyFfordd Nebo, Llanrwst, Conwy. LL26 0SD
Ffôn: 01492 642802
E-bost: fs@dyffrynconwy.conwy.sch.uk
www.ysgoldyffrynconwy.org
Yn eisiau erbyn mis Ionawr 2027
Dirprwy Bennaeth
Graddfa Gyflog: Grŵp 5 L18 - L22
Oriau: Llawn Amser
Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn Ysgol gyfrwng Cymraeg (Categori 3) gyda 607 o ddisgyblion oedran 11-18 yn cynnwys 80 yn y Chweched Dosbarth. Lleolir yr ysgol yn nhref Llanrwst gyda'r ysgol yn gwasanaethu'r dref a'r ardal wledig ehangach.
Mae'r ysgol yn chwilio am berson deinamig sydd â'r brwdfrydedd a'r weledigaeth i gyd arwain yr ysgol lwyddiannus hon. Yn Ysgol Dyffryn Conwy, credwn yn gryf mewn partneriaeth â'r disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach.
'Gyda'n gilydd cyrhaeddwn ein potensial'
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon
https://sites.google.com/dyffrynconwy.conwy.sch.uk/dirprwybennaethydc/cartref
Dyddiad cau: Hanner nos, Ddydd Iau 17/09/2026
Dyddiadau y broses penodi: 1+2/10/2026
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â Mrs Ffion Sabit, Clerc y Llywodraethwyr ar e-bost fs@dyffrynconwy.conwy.sch.uk
This form is also available in English