MANYLION.
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £40,777- £44,075 y flwyddyn (G08) \n
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 19 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Prosiect Iechyd a Diogelwch \/ Cynllunio Rhag Argyfwng a Chludiant Ysgol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £40,777- £44,075 y flwyddyn (G08) \n

Lleoliad gwaith: Coed Pella

Rydym ni'n chwilio am Reolwr Prosiect profiadol a hynod drefnus i arwain a datblygu gwasanaethau gweithredol a strategol allweddol ar draws swyddogaethau Iechyd a Diogelwch, Cynllunio Rhag Argyfwng a Chludiant Ysgol ac Arlwyo y Gwasanaethau Addysg.

Mae hon yn rôl hollbwysig o fewn y tîm Rheoli Eiddo a Safleoedd, sy'n gyfrifol am sicrhau darpariaeth gwasanaeth diogel ac effeithlon sy'n cydymffurfio ar draws ysgolion a safleoedd addysg. Byddwch yn gweithio'n agos gydag uwch arweinwyr, penaethiaid, llywodraethwyr a phartneriaid allanol i sbarduno gwelliant parhaus a chydymffurfio â chyfrifoldebau statudol.

Cyfrifoldebau Allweddol
• Arwain gwaith rheoli a datblygu trefniadau Iechyd a Diogelwch y Gwasanaethau Addysg, gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda deddfwriaethau, polisïau ac arferion gorau perthnasol
• Goruchwylio'r swyddogaeth Cynllunio Rhag Argyfwng a chyfrannu at drefniadau digwyddiadau critigol a pharhad gwasanaeth
• Monitro a gwerthuso perfformiad contractwyr, gan sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu'n effeithiol ac yn dangos gwerth am arian
• Arwain archwiliadau, arolygon ac adroddiadau Iechyd a Diogelwch ar draws ysgolion a safleoedd addysg
• Datblygu a darparu rhaglenni hyfforddi i staff, llywodraethwyr, budd-ddeiliaid ar iechyd a diogelwch a meysydd perthnasol
• Cynnal perthynas waith dda gydag adrannau mewnol a phartneriaid allanol, a chynrychioli'r gwasanaeth mewn fforymau lleol a chenedlaethol yn ôl yr angen
• Cyfrannu at ddatblygiad strategol y gwasanaeth Rheoli Eiddo a Safleoedd a chefnogi'r rhaglen ehangach

Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol hyderus a medrus gyda:
• Profiad o reoli prosiect, yn ddelfrydol o fewn y sector cyhoeddus, ystadau neu iechyd a diogelwch
• Cymhwyster IOSH / NEBOSH cydnabyddedig ac o leiaf dwy flynedd o brofiad o reoli iechyd a diogelwch
• Ymwybyddiaeth ariannol a masnachol cryf, gan gynnwys monitro ac adrodd ar gyllidebau
• Sgiliau ymgysylltu â budd-ddeiliaid rhagorol, gyda'r gallu i weithio'n effeithiol ar draws nifer o sefydliadau
• Gallu dadansoddi gwybodaeth gymhleth a chynhyrchu argymhellion clir ac ymarferol
• Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu rhagorol

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Estelle Frankcom, Rheolwr Adran - Iechyd a Diogelwch a Chludiant 01492 574267 estelle.frankcom@conwy.gov.uk

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.

Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.