MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llangadfan,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 02 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro/Athrawes (Ysgol Cwm Banwy)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
Teitl y swydd: Athro/ Athrawes
Hyd at 5 diwrnod, dros gyfnod mamolaeth.
(Dechrau hanner tymor yr Hydref )
Lleoliad: Ysgol Cwm Banwy, Llangadfan.
Graddfa: Graddfa Cyflog Athrawon
Atebol i'r: Pennaeth a'r Corff Llywodraethol
Ein Gweledigaeth
Gyda'n gilydd yn lliwio'r byd!
Rydym yn chwilio am athro/ athrawes sy'n weithgar a fydd yn sicrhau disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddysgwyr. Bydd ein athro/ athrawes yn ffynnu ar her, yn gweithio'n galed fel rhan o dîm yr ysgol, yn benderfynol o ddarparu'r profiadau dysgu gorau i bob plentyn mewn modd creadigol, deinamig ac arloesol. Mae'r ysgol yn darparu cwricwlwm cyffrous sy'n tanio dychymyg ac ennyn diddordeb y dysgwyr trwy gynnig profiadau cyfoethog sy'n sicrhau dysgu pwrpasol ac ymarferol.
Arolygiad Estyn: Adroddiad arolygiad Ysgol Cwm Banwy 2024
Mae corff llywodraethol yr ysgol yn awyddus i benodi ymarferydd brwdfrydig, ymroddedig ac ysgogol i ymuno â'n hysgol Eglwysig, Gymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r ysgol yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb. Mae'r swydd yn destun cyfeiriadau
boddhaol, DBS manylach a phob cliriad perthnasol arall.
Mae croeso cynnes i ddarpar ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol neu i gael sgwrs anffurfiol gyda mi fel pennaeth. Cysylltwch drwy anfon e-bost at pennaeth@cwmbanwy.powys.sch.uk neu ffoniwch yr ysgol
ar 01938 820226.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher, Medi'r 2il
Dyddiad llunio rhestr fer: Dydd Iau, Medi'r 3ydd
Dyddiad cyfweliad: Dydd Iau, Medi'r 10fed
Diolch am ddangos diddordeb yn y swydd,
Betsan Llwyd
Pennaeth