MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: See Job Advertisement,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £12,790 - £13,908 y flwyddyn
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 06 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £12,790 - £13,908 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Ymunwch â'n Tîm - Dau Weithiwr Ieuenctid Stryd
Lleoliad: Gwynedd (ar draws y sir)
Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc? Ydych chi'n mwynhau gweithio yn y gymuned ac adeiladu perthnasoedd cadarnhaol? Os felly, hoffem glywed gennych.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn chwilio am ddau Weithiwr Ieuenctid Stryd brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm.
Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc yn y mannau lle maent yn naturiol yn ymgynnull ledled Gwynedd. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar adeiladu perthnasoedd ymddiriedus, ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt bob amser yn defnyddio gwasanaethau traddodiadol, a sicrhau eu bod yn cael mynediad at gyfleoedd a chefnogaeth sy'n gwneud gwahaniaeth.
Beth fyddwch yn ei wneud?
- Ymgysylltu â phobl ifanc yn eu cymunedau ac yn y mannau lle maent yn cyfarfod.
- Datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac ymddiriedus gyda phobl ifanc.
- Cynllunio a chynnal prosiectau, gweithgareddau a mentrau sy'n ymateb i anghenion a diddordebau pobl ifanc.
- Arwain ar ddatblygu gwasanaeth gwaith ieuenctid stryd pwrpasol ar draws Gwynedd.
- Gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, gwasanaethau statudol, yr heddlu a sefydliadau cymunedol i sicrhau'r gefnogaeth orau i bobl ifanc.
- Sicrhau bod llais pobl ifanc wrth wraidd y gwasanaeth a'u cynnwys wrth gynllunio gweithgareddau a datblygiadau.
- Yn angerddol am gefnogi a grymuso pobl ifanc.
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a meithrin perthnasoedd rhagorol.
- Yn gallu gweithio'n hyblyg, gan gynnwys rhai nosweithiau ac achlysuron penwythnos.
- Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
- Yn rhannu gwerthoedd gwaith ieuenctid ac yn ymrwymedig i sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ffynnu.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o wasanaeth blaengar sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc ledled Gwynedd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ymunwch â ni a helpwch bobl ifanc Gwynedd i wireddu eu potensial.
Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
• Gallu i weithio yn dda a chreu perthynas gadarn gyda pobl ifanc
• Y gallu i weithredu fel aelod o dîm bychan sydd yn gweithio min nos ac ar benwythnosau
• Gallu gweithio oriau anghymdeithasol
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
-
Dymunol
• Cymhwyster Lefel 3 neu Uwch mewn Gwaith Ieuenctid
• Cwrs Amddiffyn Plant Lefel 1
Profiad perthnasolHanfodol
• Profiad o weithio hefo pobl ifanc
• Profiad o ddarparu prosiectau / gweithgareddau i bobl ifanc
Dymunol
-
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
• Sgiliau o allu cyfathrebu yn effeithlon wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc
• Rhugl yn y Gymraeg ar Saesneg
• Sgiliau trefnu a gweinyddu da
• Gallu i weithio gyda pobl Ifanc
• Ymrwymiad cadarn i egwyddorion Cyfle Cyfartal ac Amddiffyn Plant
Dymunol
• Gwybodaeth am ddatblygiadau cyfoes ym maes gwaith Ieuenctid
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Bydd yn gyfrifol am yr offer y bydd yn ei ddefnyddio ar y pryd
Prif ddyletswyddau
• Cyflwyno prosiectau a gweithagreddau i bobl ifanc yn eu cymunedau.
• Sicrhau bod pobl ifanc teimlo'n ddiogel, cael cefnogaeth, cael eu gwerthfawrogi, dysgu sut i gymryd rheolaeth dros eu bywydau gan adnabod a gwrthwynebu dylanwadau neweidiol all eu effeithio
• Cynorthwyo y Gweithiwr Ieuenctid i adnabod diddordebau, anghenion pobl ifanc er mwyn datblygu sesiynnau a prosiectau a trefnu digwyddiadau a gweithagreddau.
• Cynorthwyo y Gweithiwr Ieuenctid i gynnig ystod o brofiadau dysgu i bobl ifanc gan ddefnyddio dulliau anffurfiol gwaith ieuenctid, yn y cymunedau, sydd yn addas ar gyfer pobl ifanc
• Cynorthwyo y Gweithiwr Ieuenctid i gflwyno cyrsiau sydd yn arwain tuag at achrediad (Agored Cymru, Cynlluniau Her Ieuenctid a Chyflawniad Ieuenctid ASDAN, Prifysgol Plant)
• Cadw at yr holl bolisiau perthnasol y cyflogwr a gofynion stadudol eraill, yn cynnwys Cyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch ac Amddiffyn Plant
• Mewnbynnu gwybodaeth angenrheidiol sydd ei angen am bobl Ifanc yn y system gasglu gwybodaeth
• Sicrhau bod llais person Ifanc yn cael ei glywed trwy bopeth sydd yn cael ei gynnig a'i ddatblygu
• Mynychu cyfarfodydd staff yn ôl yr angen
• Mynychu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid a drefnir gan, neu ar ran, y Cyngor
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Cyflogaeth: JNC i Weithwyr Ieuenctid a Chymuned
Pwyntiau 5 - 9
Gwyliau Blynyddol: Telerau JNC - 30 diwrnod o wyliau am y 5 mlynedd cyntaf ac yna 35 diwrnod ar ôl hynny (pro rata)
Oriau Gwaith: Yr wythnos waith: 6 awr yr wythnos, i'w weithio fin nos ac ar benwythnosau, ac ar brydiau fe all fod yn ofynnol i fod yn hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion gwaith penodol.
Oriau: Yr oriau i gynnwys gwaith min nos ac ar benwythnosau a gall rhai fod yn breswyl
Defnydd car: Defnydd o gar a trwydded yrru llawn. Bydd deilydd y swydd yn cael ei ddynodi fel "defnyddiwr car achlysurol"
Ieithyddol: Bydd angen i ddeilydd y swydd fod yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg o'r cychwyn
Byddwch yn cael eich penodi i weithio yn eich dalgylch ond ar amgylchiadau arbennig bydd gofyn i chi weithio tu allan i'ch dalgylch
Mae'r swydd yn amodol ar gwblhau archwyliad llwyddiannus drwy'r Bwrdd Cofnodi Troseddau
Byddwn yn ail edrych ar y swydd ddisgrifiad ymhen blwyddyn i'r apwyntiad
Tynnir eich sylw at y ffaith fod dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol mewn rhai achosion yn anodd eu dadansoddi'n fanwl a gallent newid o dro i dro heb newid cymeriad cyffredinol y dyletswyddau na lefel y cyfrifoldeb. Yn ychwanegol, mae'n ofynnol i bob aelod o'r staff dderbyn elfennau o hyblygrwydd yn eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, a phan fo angen, cyfnewid o fewn yr Awdurdod er mwyn cyfarfod anghenion a gofynion y gwasanaeth sy'n newid yn barhaus. Bydd angen o'r fath yn galluogi i arbenigedd penodol y deilydd dyfu a datblygu er lles y cyflogwr a'r gweithiwr.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi