MANYLION
  • Lleoliad: Cardiff, Cardiff, CF24 5JW
  • Testun: Swyddog Cyfathrebu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,860 - £29,430
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 08 Awst, 2022 10:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau

Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau

Estyn
Fel Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau, byddwch yn cefnogi creu, gweithredu a gwerthuso gweithgareddau cyfathrebu digidol yn ein rhaglen digwyddiadau a hyfforddi, ac ar draws cyfryngau a berchnogir, a enillir ac y telir amdanynt i helpu cyflawni ein Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid. Byddwch yn defnyddio eich medrau cyfathrebu a’ch gwybodaeth i gefnogi ein hymagwedd ddigidol at gyfathrebu i gyrraedd ein cynulleidfa darged a chefnogi ein nodau strategol.

Mae ein Swyddogion Cyfathrebu a Digwyddiadau:
• yn rheoli cyfathrebu a threfnu digwyddiadau digidol proffil uchel, hyfforddiant, gweminarau a ffrydio byw ar gyfer arolygwyr a gweithwyr addysg proffesiynol, gan ddefnyddio’r platfform gorau i gyrraedd ein cynulleidfa darged
• yn cefnogi datblygu ymagwedd ddigidol ar draws ein holl ohebiaeth allanol, gan gynnwys datblygu ein cymunedau ar-lein i sicrhau ein bod yn teilwra ein cynnwys i gyrraedd ein cynulleidfaoedd targed yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys rheoli a goruchwylio ein holl sianelau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Estyn a’r Prif Arolygydd
• yn monitro, yn gwella ymgysylltiad ac yn gwerthuso ein sianelau digidol, gan gynnwys gwefan Estyn, fideo, blog a sianelau cyfryngau cymdeithasol
• yn datblygu cynnwys fideo byr a difyr
• yn drafftio copi ac yn creu cynnwys difyr i hyrwyddo ein gwaith, er enghraifft ar draws ein digwyddiadau a hyfforddiant, recriwtio arolygwyr a chyfryngau cymdeithasol
• yn datblygu canllawiau ‘sut i’ a thempledi i wella medrau’r tîm cyfathrebu ehangach i integreiddio cynnwys digidol mewn ymgyrchoedd

Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch chi’n defnyddio eich medrau cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel ei gilydd.

Byddwch chi:
• yn mwynhau bod yn greadigol
• yn dangos hunangymhelliant ac yn hynod drefnus
• yn mwynhau her baich gwaith amrywiol
• yn gyfathrebwr hyderus
• yn meddu ar hanes da o ymdopi â thasgau lluosog i fodloni terfynau amser
• yn hyderus yn defnyddio TG
• yn gweithio mewn ffordd gydweithredol a hyblyg
• yn gallu gweithio mewn amgylchedd sy’n newid

Mae ein pobl yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Efallai eich bod wedi gweithio mewn sefydliad mawr neu fach, mewn amgylchedd Cymraeg neu ddwyieithog, yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat. Efallai eich bod yn cymryd eich cam cyntaf i’r gweithle neu’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant neu eisiau ehangu’ch profiad mewn disgyblaeth gyfathrebu wahanol. Mae hwn yn gyfle rhagorol i ennill profiad yn un o adrannau’r Gwasanaeth Sifil a a gwella eich medrau. Byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu a datblygu a fydd yn eich helpu i ddatblygu’ch medrau a’ch gyrfa.
JOB REQUIREMENTS
Mae’n hanfodol:
• fod gennych chi brofiad neu gymhwyster perthnasol mewn amgylchedd cyfathrebu – yn enwedig arbenigedd mewn defnyddio technoleg ddigidol mewn ymgyrchoedd, fel gweminarau, ffrydio byw a chreu fideo difyr
• bod gennych chi hanes profedig o gynnal ymgyrchoedd cyfathrebu
• eich bod yn dilyn hynt a helynt tueddiadau sy’n dod i’r amlwg mewn cyfathrebu digidol ac yn cymhwyso a rhannu’r wybodaeth hon
• eich bod yn meddu ar fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd rhagorol
• eich bod yn meddu ar fedrau ysgrifenedig cryf a phrofiad profedig o ysgrifennu copi ac yn gallu trosi a chyflwyno gwybodaeth dechnegol / arbenigol mewn ffordd y gall pobl eraill ei deall (gan gynnwys pobl nad ydynt yn arbenigwyr)
• eich bod yn unigolyn hawdd mynd ato/ati ac yn gallu ffurfio perthnasoedd gweithio effeithiol gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar bob lefel i sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd y bobl gywir ar yr adeg gywir
• eich bod yn hyderus yn defnyddio systemau TG, gan gynnwys Microsoft Office
• eich bod yn drefnus ac yn meddu ar fedrau rheoli amser da, ac yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn graddfeydd amser cytûn
• eich bod yn gallu gweithio’n annibynnol, defnyddio’ch blaengaredd, gan hefyd gydweithio â phobl eraill ar draws y sefydliad, gan gynnwys uwch reolwyr

Mae’n fanteisiol eich bod yn meddu ar y canlynol:
• y gallu i fonitro a dadansoddi effeithiolrwydd ymgyrch gyfathrebu, gan ddefnyddio ystod o ffynonellau sydd ar gael i werthuso gwybodaeth
• medrau dylunio sylfaenol neu brofiad a gwybodaeth ymarferol am Adobe PremierPro, Photoshop ac InDesign
• medrau Cymraeg (ysgrifenedig a llafar)

Ymddygiadau allweddol
• Gweld y darlun mawr
• Cyfathrebu a dylanwadu
• Rheoli gwasanaeth o ansawdd da
• Cyflawni ar gyflymdra
• Gwneud penderfyniadau effeithiol

Dyma’r Cymwyseddau Proffesiynol Cyfathrebu ar gyfer y rôl hon:
• Defnyddio mewnwelediad i nodi cynulleidfaoedd targed a phartneriaid a llywio amcanion, negeseuon ac atebion cyfathrebu
• Datblygu’r strategaeth a’r cynllun cyfathrebu. Dewis sianelau a datblygu negeseuon a chynnwys allweddol ar gyfer cynulleidfaoedd targed
• Nodi meini prawf gwerthuso
• Datblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau cyfathrebu effeithiol. Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i gyflawni cyfathrebu
• Asesu effaith ac effeithiolrwydd cyfathrebu. Adolygu cyflawni amcanion. Nodi’r gwersi a ddysgwyd a rhannu adborth

Oriau gwaith a gweithio hyblyg: Yr oriau amser llawn yw 37 awr, 5 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio breaks. Rydym yn croesawu ceisiadau i weithio’n rhan-amser/oriau llai, rhannu swydd neu ar sail hyblyg arall.

Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim. Rydym yn treialu cynllun gweithio hybrid ar hyn o bryd.