MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £32,597 - £35,412 Pro Rata | Grade 6
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

SNRB Higher Level Teaching Assistant - Cwmbran High School

Torfaen Local Authority

Cyflog: £32,597 - £35,412 Pro Rata | Grade 6

Rydym wrth ein bodd eich bod wedi dangos diddordeb yn swydd CALU.

Rydym yn chwilio am berson sy'n unigolyn cryf, myfyriol a chydnerth, a fydd yn integreiddio'n ddi-dor i fywyd yr ysgol i fod yn rhan annatod o'n taith tuag at welliant a llwyddiant.

Mae ein hysgol ar gam pwysig yn ei siwrnai wella, ac rydym yn awyddus i benodi aelod o staff hynod effeithiol sydd â'r profiad, yr ymrwymiad a'r ysfa i godi safonau, gwella'r ddarpariaeth ar draws yr ysgol , i sicrhau bod pob disgybl yn ffynnu ac yn llwyddo.

Dyma gyfle cyffrous ac unigryw a bydd ymuno â chymuned ysgol groesawgar sy'n adeiladu tuag at ddyfodol llwyddiannus yn brofiad gwerth chweil.

Mae gennym ddyheadau a disgwyliadau uchel i bawb. Ein nod yw darparu profiadau dysgu ac addysgu sydd o ansawdd uchel yn gyson, a hynny ar gyfer pob disgybl, mewn diwylliant lle mae llesiant staff a disgyblion yn hollbwysig.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob un o'n disgyblion yn datblygu fel unigolion llwyddiannus, o'n disgyblion mwyaf agored i niwed i'n disgyblion mwy abl a thalentog. Rydym yn cydnabod bod gofyn personoli dysgu'r disgyblion i fodloni eu hanghenion penodol, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial. Rydym yn cydnabod hefyd fod dysgu yn fwy na chyrhaeddiad academaidd. Dylai ei ffocws fod ar ddatblygu'r plentyn cyfan, gan gynnwys eu datblygiad personol. Yn y pendraw, rydym yn ymdrechu i fod yn ysgol lle mae dysgu'n cael ei werthfawrogi, lle mae disgyblion yn cyrraedd eu potensial mewn cymuned hapus a diogel lle maent yn dangos parch a goddefgarwch at eraill, ac adlewyrchir hyn yn ein harwyddair, &slshquot;Ymdrechu, Credu, Cyflawni&slshquot;.

 ninnau'n ysgol gynhwysol, gwerthfawrogir pob aelod o gymuned ein hysgol. Rydym yn disgwyl y gorau gan bawb, waeth a ydy disgyblion yn fwy abl yn academaidd neu'n dalentog mewn chwaraeon, cerddoriaeth neu'r celfyddydau. Rydym yn ymrwymo i sicrhau'r siwrnai ddysgu orau bosibl i bob unigolyn, gan feithrin eu gallu i ddod yn ddysgwyr medrus, gydol oes sy'n ddinasyddion cymdeithasol ymwybodol, iach a gweithgar.

Mae datblygiad proffesiynol staff yn hanfodol i'n siwrnai wella. Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi'n sylweddol mewn pecyn o gymorth perthnasol ac ystyrlon i staff, sydd wedi ei deilwra at anghenion unigol.

Mae hwn yn gyfle gwych i gynorthwyydd rhagorol sydd â'r egni, yr ysgogiad, a'r sgiliau i sicrhau bod profiadau dysgu o ansawdd uchel yn cael eu darparu ar draws yr ysgol, a llunio diwylliant o ragoriaeth.

Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon neu ymweliad ysgol anffurfiol, cysylltwch â mi i drafod y cyfle hwn ymhellach: Matthew.sims@cwmbranhigh.school

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.