MANYLION.
  • Lleoliad: Builth Wells,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 10 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)
Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 3)
27.5 awr yr wythnos (38 wythnos ynghyd â hawl gwyliau pro rata)
(Dydd Llun i ddydd Gwener)
Angen o 1 Hydref 2026
Cyfnod Penodol hyd at 31 Awst 2027
Mae Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt yn ysgol gynradd ddwy ffrwd i blant 4-11 oed. Mae rhai o'n plant yn dysgu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg a rhai'n bennaf drwy Saesneg. Er ein bod ni'n ddwy ffrwd, rydyn ni'n un ysgol i raddau helaeth ac yn falch bod ein holl blant yn cael eu hannog i uniaethu fel dinasyddion Cymru a'r byd ehangach. O fewn adeilad yr ysgol, mae gennym wyth ystafell ddosbarth, pedair ym
mhob ffrwd ac rydyn ni'n cynnal Dosbarth Cymorth Dysgu Ardal ar ran yr Awdurdod Lleol. Mae gennym hefyd grŵp cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg, Cylch yn yr Ysgol, a grŵp Ti a Fi dwyieithog rhieni a phlant bach.
Rydyn ni'n chwilio am gynorthwyydd addysgu brwdfrydig, caredig a gofalgar sydd â disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad, i gefnogi dysgu o fewn ffrwd Saesneg ein hysgol. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar y sgiliau a'r cymwysterau angenrheidiol i gyflawni'r rôl.
Cysylltwch â swyddfa'r ysgol os hoffech drafod y rôl neu drefnu ymweliad â'r ysgol.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS