MANYLION.
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 31,537 - 33,699 *
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 21 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4 - Ysgol Gynradd Llanfarian

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 31,537 - 33,699 *

Ynglŷn â'r rôl
Ydych chi'n weithiwr proffesiynol profiadol a brwdfrydig sy'n angerddol am helpu plant i ddysgu, tyfu, a chyflawni eu potensial llawn? Mae Ysgol Gymunedol Llanfarian yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 4 medrus i ymuno â'r tîm o 1/9/2026, neu mor fuan â phosib ar ôl hynny, am gyfnod o flwyddyn i gychwyn

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi dysgu ar draws yr ysgol, gan weithio'n agos gyda'r athrawon, arwain sesiynau grŵp bach, ac o bryd i'w gilydd gymryd cyfrifoldeb am ddosbarthiadau cyfan. Byddwch hefyd yn helpu i reoli a datblygu cynorthwywyr addysgu eraill, gan sicrhau safon uchel o gefnogaeth i bob disgybl.

Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4, byddwch yn:
  • Cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu o dan system oruchwyliaeth gytunedig.
  • Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth arbenigol i gefnogi dysgu a chynnydd.
  • Datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg ac Ymddygiad Unigol (IEPs).
  • Darparu adborth ar gynnydd disgyblion a chyfrannu at asesiadau a chadw cofnodion.
  • Hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth, hunan-barch ac ymddygiad cadarnhaol.
  • Defnyddio TGCh yn effeithiol i wella addysgu a dysgu.
  • Gweithio gyda'r athrawon i gynllunio a gwerthuso gwersi, gan sicrhau bod gweithgareddau'n diwallu anghenion disgyblion.
  • Rheoli a chefnogi cynorthwywyr addysgu eraill, gan gynnwys mentora, arfarnu a hyfforddi.
  • Cyfrannu at gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu y tu allan i'r ysgol a chyfleoedd cyfoethogi.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n:
  • Yn meddu ar brofiad o weithio gyda phlant o'r oedran priodol mewn amgylchedd dysgu.
  • Yn bodloni safonau Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (HLTA) neu'n meddu ar gymhwyster/profiad cyfatebol.
  • Yn meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd rhagorol (sy'n cyfateb i NVQ Lefel 2 neu uwch).
  • Yn meddu ar hyfforddiant arbenigol neu sgiliau mewn meysydd perthnasol o'r cwricwlwm, megis llythrennedd, rhifedd, TGCh, cefnogaeth ddwyieithog, neu iaith arwyddion.
  • Yn deall datblygiad plant, prosesau dysgu, a fframweithiau statudol.
  • Yn gallu defnyddio TGCh a thechnoleg yn effeithiol i gefnogi dysgu.
  • Yn hyderus wrth arwain ac ysgogi eraill, gyda sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm cryf.
  • Yn deall pwysigrwydd diogelu, cynhwysiant, a datblygiad proffesiynol parhaus.

Yn gyfnewid, byddwch yn:

Ymuno ag ysgol groesawgar a blaengar sy'n gwerthfawrogi gwaith tîm, datblygiad proffesiynol, a chefnogaeth o safon uchel i bob disgybl. Byddwch yn cael mynediad at hyfforddiant parhaus a chyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau arwain ac addysgu ymhellach.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Davies ar daviesh203@llanfarian.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.

Sylwch na fydd euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere... Darllen mwy