MANYLION.
  • Lleoliad: Swansea,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 02 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu - Canolfan Arbenigol (Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu - Canolfan Arbenigol (Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr)
Swydd-ddisgrifiad

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar

gyfer y swydd hon.
Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr
Cynorthwy-ydd Addysgu - Canolfan Arbenigol
Graddfa 7 | 30 awr yr wythnos | 39 wythnos y flwyddyn
Mae'r Llywodraethwyr, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, am
benodi Cynorthwyydd Addysgu brwdfrydig, gofalgar a llawn cymhelliant i
ymuno â'n Canolfan Arbenigol yn Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr.
Mae'r Ganolfan Arbenigol yn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu
ychwanegol sylweddol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr Athro sy'n Gyfrifol am y Ganolfan Arbenigol a bydd yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi dysgu, cyfathrebu, lles, annibyniaeth a chynhwysiant disgyblion.
Bydd y swydd yn cynnwys cefnogi disgyblion yn y Ganolfan Arbenigol,
helpu disgyblion i gael mynediad at ddysgu prif ffrwd lle bo hynny'n briodol, a chyfrannu at ymyriadau arbenigol a rhaglenni cymorth unigol.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n ddi-gynnwrf, amyneddgar, hyblyg ac yn
gallu adeiladu perthynas gadarnhaol â disgyblion, staff, teuluoedd a
gweithwyr proffesiynol eraill. Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ag
anghenion dysgu ychwanegol a/neu mewn darpariaeth arbenigol yn
ddymunol.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y
swydd hon.
Mae croeso i ymgeiswyr drafod y rôl gyda Rhys Lewis
Ebost: r.lewis@dyffrynyglowyr.powys.sch.uk
Ffôn: 01639 846060
Dyddiad cychwyn: Medi 2026
Contract: Tymor penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026-27
Cyfnod penodol am 12 mis yn y lle cyntaf
Mae'r swydd hon yn cael ei gynnig fel contract cyfnod penodol am 12 mis
yn y lle cyntaf. Bydd parhad y tu hwnt i'r cyfnod hwn yn amodol ar gyllid
parhaus ac anghenion y ddarpariaeth
Dyddiad Cau: 02/09/2026
Rhestr fer: 04/09/2026
Cyfweliadau: 17/09/2026