MANYLION.
  • Lleoliad: Llandrindod Wells,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 21 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3
Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yn ein Ffrwd Gymraeg
27.5 awr yr wythnos (5 diwrnod yr wythnos / 38 wythnos ynghyd â hawl gwyliau pro-rata Lefel 3 - Gradd 5
Angen cyn gynted â phosibl - parhaol
Ysgol gymunedol ddwy ffrwd yr Eglwys yng Nghymru a reolir yn wirfoddol yw Ysgol Trefonnen, ar gyfer plant 4-11 oed; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg a rhai trwy'r Saesneg. Fodd bynnag, mae ein holl ddisgyblion yn rhannu'r profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. O fewn adeilad yr ysgol, mae gennym saith ystafell ddosbarth, dau grŵp Blynyddoedd Cynnar cyn-ysgol (cyfrwng Cymraeg a Saesneg), dau leoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Clwb Gwyliau Haf Bwyd a Hwyl buddiol ac Oergell Gymunedol hynod lwyddiannus.
Rydym angen cynorthwyydd cymorth dysgu i gefnogi'r gwaith o ddysgu disgyblion yn Ysgol Trefonnen.
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu sydd:
• yn llawn cymhelliant ac yn gallu ffurfio perthynas ardderchog â phlant.
• yn gyfathrebwr da yn y Gymraeg a'r Saesneg
• gyda disgwyliadau uchel o ddysgu ac ymddygiad
• yn gweithio'n dda fel rhan o dîm
Yn gyfnewid am hynny, gallwn gynnig y canlynol i chi:
• Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr
• Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
• Amgylchedd dysgu gofalgar ag adnoddau da iawn
• Partneriaeth gref gyda rhanddeiliaid
Bydd gofyn i ymgeiswyr wneud gwiriad datgelu a gwahardd.
I gael ffurflen gais a manyleb swydd, e-bostiwch:
recruitment@powys.gov.uk; neu ymgeisiwch arlein ar www.powys.gov.uk
Dyddiad Cau: 21.9.26
Dyddiad Creu Rhestr Fer: 22.9.26
Dyddiad y Cyfweliad: I'w gadarnhau

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS