MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 30 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth

Cyngor Sir Fynwy
Hysbyseb Swydd
Mae Disgyblion, Staff a Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Yr Eglwys yng Nghymru Rhaglan yn
edrych am arweinydd sy'n ysbrydoli, yn dosturiol ac agos-atoch i lenwi swydd Pennaeth. Bydd yn berson gyda
gweledigaeth glir ac sy'n uchelgeisiol ar gyfer ein dyfodol, a fydd yn parhau i yrru'r ysgol ymlaen gyda'r
disgwyliadau uchaf, gan rymuso staff a disgyblion fel ei gilydd i 'Feithrin, Ysbrydoli, Credu, Cyflawni'.
Mae ein hysgol yn ganolbwynt gyda gwreiddiau dwfn yn y gymuned leol, gan ddod â phlant, eu teuluoedd a'r
ardal ehangach ynghyd drwy ymdeimlad cryf o berthyn. Bydd ein pennaeth yn cadarnhau ac adeiladu ar y
cysylltiadau hyn a sicrhau fod ein hysgol yn parhau i fod yn hyb croesawgar, blaengar a chynhwysol, lle mae
pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a phob disgybl yn cael cyfle i ffynnu.
Mae ein harolwg diweddaraf gan Estyn (Chwefror 2026) yn cydnabod bod ein ysgol yn hyrwyddo rhannu cariad
at ddysgu ymysg staff a disgyblion a bod yr ymdeimlad hwn o frwdfrydedd ac ymroddiad yn adlewyrchu
gweledigaeth yr ysgol. Dywedant fod ein cwricwlwm ysbrydoli yn creu profiadau dysgu dilys sy'n cyfoethogi
dealltwriaeth disgyblion ac yn rhoi diben i'w dysgu.
Rydym yn falch tu hwnt o'r amgylchedd cryf o gefnogaeth ar gyfer annibyniaeth disgyblion ac arweinyddiaeth a
ddatblygwyd o grwpiau a elwir yn 'Gwneuthurwyr Newid Rhaglan', lle mae disgyblion o bob grŵp oedran wedi
cymryd rolau arwain pwrpasol o fewn meysydd amrywiol y cydnabu Estyn oedd yn rhoi ymdeimlad cryf o
falchder a chyfrifoldeb a chydnabyddiaeth o'r effaith gadarnhaol y gall eu llais a'u gweithredoedd eu cael ar
eraill.
Mae ein hysgol yn fodern a chafodd ei hadeiladu ar gyfer profiadau dysgu integredig sy'n cefnogi pob plentyn i
ddatblygu eu sgiliau ar eu cam datblygu eu hunain, wedi canolbwyntio ar amgylcheddau dysgu plaza. Credwn
ei bod yn lle cyffrous deinamig i weithio ac i ddysgu.
Fel Ysgol Yr Eglwys yng Nghymru, rydym yn cynnig amgylchedd cefnogol, gyda gwreiddiau dwfn mewn
gwerthoedd Cristnogol ac edrychwn am Bennaeth sy'n ymroddedig i goleddu a datblygu ethos Gristnogol ein
hysgol.

Post Manylion
CYFLOG - GWYBODAETH BWYSIG: Byddai'r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos.

Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol):

Lleoliad: Raglan VC Primary School, NP15 2EN, United Kingdom. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni fyddir yn alu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd.

Yn ystod y Tymor yn unig - Wythnos y Flwyddyn (os yn berthnasol):

GWIRIAD GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD:
Bydd apwyntiad i'r rôl hon wedi ei eithrio o'r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Enhanced with Children Barred List Check

ASESIAD O'R GYMRAEG: Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Cyswllt Recriwtio: Os ydych angen mwy o wybodaeth am y swydd hon, gofynnir i chi gysylltu â: James Attew, Cadeirydd y Llywodraethwyr, drwy ebost: clarecoff@monmouthshire.gov.uk