MANYLION.
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £54,044 - £59,175 / blwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 22 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth Iechyd, Gofal Plant a Chyfrifiadura

Coleg Sir Gar

Cyflog: £54,044 - £59,175 / blwyddyn

Pennaeth Iechyd, Gofal Plant a Chyfrifiadura
Department: Arall

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Graig

Compensation: £54,044 - £59,175 / blwyddyn

DescriptionMae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn awyddus i benodi arweinydd ysbrydoledig, sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, i arwain ein darpariaeth Iechyd, Gofal Plant a Chyfrifiadura. Mae'r swydd wedi'i lleoli ar gampws y Graig. Dyma gyfle cyffrous i arweinydd addysgol profiadol lunio ac arwain maes cwricwlwm amrywiol ac arloesol, gan sicrhau addysgu, dysgu ac asesu rhagorol ac ysgogi cyflawniad, dilyniant a llwyddiant dysgwyr.

Fel Pennaeth Iechyd, Gofal Plant a Chyfrifiadura, byddwch yn darparu arweinyddiaeth weithredol effeithiol ar draws portffolio eang o raglenni, gan gydweithio â thimau cwricwlwm, cyflogwyr, prifysgolion a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod ein darpariaeth yn parhau i ddiwallu anghenion dysgwyr, diwydiant a'r gymuned ehangach. Byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth arwain timau cwricwlwm i ddarparu addysg o ansawdd uchel, ysgogi gwelliant parhaus a sicrhau profiad dysgwr rhagorol sy'n galluogi pob dysgwr i gyflawni ei botensial.

Yr hyn fyddwch chi'n ei wneud
  • Darparu arweinyddiaeth weithredol effeithiol ar gyfer yr adran Iechyd, Gofal Plant a Chyfrifiadura.
  • Arwain a rheoli timau cwricwlwm i ddarparu addysgu, dysgu ac asesu o ansawdd uchel sy'n galluogi dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn.
  • Ysgogi gwelliant parhaus drwy sicrhau ansawdd, hunanasesu, monitro perfformiad a chynllunio gwella ansawdd effeithiol.
  • Monitro recriwtio, presenoldeb, cadw, cyflawniad a dilyniant dysgwyr, gan roi strategaethau ymyrraeth wedi'u targedu ar waith lle bo'n ofynnol.
  • Arwain y gwaith o gynllunio a datblygu cwricwlwm, gan sicrhau bod rhaglenni'n ymateb i alw cyflogwyr, blaenoriaethau rhanbarthol ac amcanion strategol Llywodraeth Cymru a Medr.
  • Arwain a chefnogi staff drwy reoli perfformiad, hyfforddi a datblygiad proffesiynol effeithiol.
  • Goruchwylio agweddau gweithredol ar gyflwyno'r cwricwlwm, gan gynnwys staffio, amserlennu, cynllunio adnoddau a rheoli cyllideb.
  • Hyrwyddo ymarfer cynhwysol, cydraddoldeb, amrywiaeth a lles dysgwyr, gan sicrhau bod pob dysgwr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i lwyddo.
  • Hyrwyddo dwyieithrwydd a chefnogi datblygiad cyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm.
  • Cyfrannu at flaenoriaethau strategol coleg cyfan a mentrau traws-golegol sy'n gwella llwyddiant dysgwyr a pherfformiad sefydliadol.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddYr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1 Dymunol
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1Dymunol
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Rydyn ni'n chwilio am rywun sydd:
  • Yn meddu ar radd neu gymhwyster cyfatebol ynghyd â chymhwyster addysgu cydnabyddedig.
  • Â phrofiad sylweddol o arwain timau cwricwlwm o fewn amgylchedd addysgol.
  • Yn dangos sgiliau trefniadol, gweithredol a chyfathrebu rhagorol.
  • Yn gallu dadansoddi data perfformiad a defnyddio tystiolaeth i ysgogi gwelliant parhaus.
  • Â phrofiad o reoli cyllidebau, adnoddau a chynllunio gweithredol.
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth gref o ddatblygiadau cyfredol ym maes addysg Iechyd, Gofal Plant a/neu Gyfrifiadura, gan gynnwys gofynion cyflogwyr, gweithwyr proffesiynol a'r diwydiant.
  • Wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgwr rhagorol, hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a lles dysgwyr. Yn gallu cydweithio â phartneriaid mewnol ac allanol i ddatblygu darpariaeth cwricwlwm a llwybrau dilyniant arloesol.
  • Yn arweinydd proffesiynol, hyblyg a blaengar sydd wedi ymrwymo i welliant parhaus a datblygiad proffesiynol.
Mae profiad dymunol yn cynnwys gweithio gyda phartneriaethau addysg uwch, cyrff cofrestru a dyfarnu proffesiynol, arloesi o ran y cwricwlwm, ac ymgysylltu â chyflogwyr ym maes addysg.

Pam Gweithio Gyda NiYng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rydyn ni'n frwdfrydig ynghylch creu cyfleoedd, cefnogi ein cymunedau a helpu dysgwyr i gyflawni eu huchelgeisiau.

Pan ymunwch â ni, byddwch yn dod yn rhan o sefydliad cydweithredol a blaengar sy'n gwerthfawrogi arloesedd, cynhwysiant a thwf proffesiynol. Rydyn ni'n ymrwymedig i gefnogi ein staff i ffynnu'n broffesiynol wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr ar draws Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Rydyn ni'n cynnig:
  • Cynllun Pensiwn Athrawon gyda chyfraniadau cyflogwr o 28.68%
  • Hawl i wyliau blynyddol hael o 37 diwrnod, ynghyd â gwyliau banc a diwrnodau cau
  • Cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus a dilyniant gyrfa
  • Cynllun Aberthu Cyflog ar gyfer Car EV
  • Amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol
  • Mynediad at fentrau lles staff a gwasanaethau cymorth
  • Cyfleoedd i gyfrannu at arferion addysgu a dysgu arloesol
  • Y cyfle i weithio mewn sefydliad a arweinir gan werthoedd sy'n ymrwymedig i lwyddiant dysgwyr ac effaith cymunedol
Os ydych chi'n frwd dros arwain darpariaeth Iechyd, Gofal Plant a Chyfrifiadura o ansawdd uchel ac ysbrydoli dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, neu i drefnu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.

Noder, ceir trefniadau i gynnal cyfweliadau ar 14 Awst 2026 (gall y dyddiad newid).