MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Soulbury B 2-7 a 3 phwynt SPA
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 06 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Soulbury B 2-7 a 3 phwynt SPA
Lleoliad gwaith: Coed PellaRydym yn Wasanaeth Seicoleg Addysg cefnogol, wedi'i hen sefydlu, mewn lleoliad hardd yng ngogledd Cymru. Mae ein tîm yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan ysgolion, teuluoedd, y gwasanaeth ADY ehangach, a chydweithwyr ar draws asiantaethau partner. Mae gennym gynrychiolaeth gref ar lefelau strategol ac aml-asiantaeth, gan gyfrannu'n ystyrlon at ddatblygu gwasanaethau a gwneud penderfyniadau.
Rydym am benodi Uwch Seicolegydd Addysg parhaol i gefnogi ein datblygiad parhaus. Mae'r gwasanaeth yn arwain y Gwasanaeth Allgymorth Awtistiaeth a'r Gwasanaeth Cefnogi Dysgu Arbenigol, ac yn cydlynu'r Tîm Anhwylder Lleferydd ac Iaith Arbenigol ar y cyd â chydweithwyr Iechyd. Rydym hefyd yn darparu rhaglen ELSA sefydledig ac yn darparu goruchwyliaeth ar draws ein hysgolion.
Fel gwasanaeth, rydym yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod ein cynnig yn parhau i ymateb i anghenion esblygol y cymunedau a wasanaethwn. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad parhaus, gan addasu i flaenoriaethau newidiol ac anghenion sy'n dod i'r amlwg. Cryfheir hyn gan y perthnasoedd cadarnhaol rydym wedi'u meithrin ag ysgolion a'n dull cryf, integredig o weithio mewn partneriaeth ar draws gwasanaethau.
Byddem yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb oddi wrth Seicolegwyr Addysg profiadol sy'n awyddus i ddatblygu meysydd arbenigedd ac sydd wedi ymrwymo i gyfrannu at dîm gwybodus, cefnogol a blaengar.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliadgan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Dr Kate Swindon, Prif Seicolegydd Addysg, 01492 575173, Kate.swindon@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.