MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Eifionydd, Porthmadog,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 13 Awst, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL EIFIONYDD, PORTHMADOG
(Ysgol Gyfun 11 - 16 oed, 369 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1 Medi, 2026
(Neu cyn gynted a phosib wedi hynny)
SWYDDOG CYNHWYSIAD - Parhaol
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.
Oriau gwaith: 25 awr yr wythnos
(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio cyfwerth a'ch oriau wythnosol yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (£15,752 - £16,790 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr. Dewi Bowen B.Sc.
Gellir gyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Marian Crowe, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Eifionydd, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9HS (Rhif ffôn: 01766 512114, Ffacs 01766 514785); e-bost: sg@eifionydd.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DDYDD IAU, 13 O AWST, 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
Darparu cefnogaeth emosiynol, gymdeithasol a bugeiliol i ddisgyblion sy'n profi gorbryder, problemau iechyd meddwl ysgafn, trafferthion presenoldeb, problemau cyfeillgarwch, effaith negyddol cyfryngau cymdeithasol neu anawsterau personol sy'n effeithio ar eu gallu i ymgysylltu'n llawn â bywyd ysgol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel oedolyn dibynadwy a chyson i ddisgyblion bregus, gan helpu i gryfhau eu hymlyniad at yr ysgol, gwella eu lles a chynyddu eu presenoldeb.
Bydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu, addasu a defnyddio adnoddau a strategaethau ymarferol i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n wynebu heriau emosiynol, cymdeithasol a llesiant. Bydd disgwyl iddo/iddi ddarparu cymorth sy'n diwallu anghenion unigol disgyblion, gan weithio'n agos gyda staff, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol.
Bydd cyfleoedd ar gael i ddatblygu'n broffesiynol drwy fynychu hyfforddiant arbenigol megis ELSA (Emotional Literacy Support Assistant), Tyfu Trwy'r Tymhorau, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a rhaglenni perthnasol eraill, er mwyn cryfhau sgiliau a gwybodaeth i gefnogi lles emosiynol disgyblion yn effeithiol.
Prif Gyfrifoldebau
Lles Emosiynol
- Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer disgyblion sydd angen cymorth emosiynol.
- Helpu disgyblion i ddatblygu strategaethau ymarferol ar gyfer rheoli emosiynau.
- Cefnogi disgyblion yn ystod cyfnodau anodd megis profedigaeth, gwahanu teuluol neu newidiadau sylweddol yn eu bywydau.
- Datblygu gweithgareddau sy'n hyrwyddo lles emosiynol a gwydnwch.
Presenoldeb ac Ymgysylltu
- Gweithio'n benodol gyda disgyblion sydd â phresenoldeb isel neu sy'n trwantu'n fewnol oherwydd gorbryder neu bryderon lles.
- Datblygu cynlluniau dychwelyd i ddosbarthiadau neu'r ysgol ar gyfer disgyblion sydd wedi bod yn absennol am gyfnodau estynedig.
- Cynnal cyfweliadau lles a phresenoldeb gyda disgyblion.
- Cysylltu'n rheolaidd â rhieni a gofalwyr.
- Cefnogi trosglwyddiadau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd.
- Gweithio gyda staff i nodi rhwystrau i bresenoldeb a datblygu strategaethau priodol i'w goresgyn.
Cefnogaeth Ddyddiol
- Bod ar gael i ddisgyblion mewn cyfnodau allweddol megis:
- dechrau'r diwrnod
- gwersi
- diwedd y dydd
- Cynnal "gwirio i mewn" dyddiol gyda disgyblion targed.
- Darparu lle tawel, diogel a chefnogol i ddisgyblion pan fo angen.
- Gweithio fel oedolyn allweddol ar gyfer disgyblion bregus sydd angen cefnogaeth gyson.
Gweithio mewn Partneriaeth
- Cydweithio'n agos gyda'r Tîm Cynhwysiad (Yr Uned Cynhwysiad), Penaethiaid Blwyddyn, Anogwr Dysgu, staff addysgu a staff cymorth ADY.
- Cyfrannu at gyfarfodydd amlasiantaethol pan fo angen.
- Cysylltu a gweithio gyda gwasanaethau allanol perthnasol er budd disgyblion.
- Trafod yn rheolaidd gyda Penaethiaid Blwyddyn ar gynnydd, pryderon ac ymyriadau perthnasol sy'n ymwneud â disgyblion unigol trwy mynychu cyfarfodydd bugeilol.
- Gweithio gyda'r Uned Gynhwysiad i baratoi a chefnogi disgyblion i ailintegreiddio'n llwyddiannus i wersi prif ffrwd
Monitro
- Cadw cofnodion cywir o ymyriadau a chynnydd.
- Monitro effaith ymyriadau ar:
- bresenoldeb
- lles
- ymgysylltiad
- perthnasoedd cymdeithasol
Datblygiad Proffesiynol
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus.
- Datblygu arbenigedd mewn cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc.
- Rhannu arferion effeithiol ac adnoddau gyda chydweithwyr.
- Cadw'n gyfredol â chanllawiau, ymchwil a datblygiadau ym maes lles, cynhwysiant a phresenoldeb.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc drwy eu helpu i oresgyn rhwystrau emosiynol a chymdeithasol, gwella eu lles a sicrhau eu bod yn gallu ffynnu o fewn cymuned yr ysgol.
Atebolrwydd a Rheolaeth Llinell
Bydd yn atebol yn uniongyrchol i'r Pennaeth Cynorthwyol (Bugeiliol) am gyflawni ei ddyletswyddau a datblygu'r ddarpariaeth lles a chynhwysiant.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi