MANYLION
  • Lleoliad: Yale, Wrexham, LL12 7AB
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 03 October, 2022
  • Dyddiad Gorffen: 02 October, 2023
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,728 - £26,738
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 17 Awst, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Arweinydd Tîm Arholiadau

Arweinydd Tîm Arholiadau

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Arweinydd Tîm Arholiadau
Lleoliad: Iâl
Y Math o Gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol (Hydref 2023)
Cyflog: £24,728 - £26,738
Gofynion Hanfodol
Wedi cymhwyso i o leiaf NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn maes o arbenigedd proffesiynol ac yn barod i weithio tuag at NVQ lefel 4.
Yn gwbl hyddysg mewn cyfrifiadura gan ddefnyddio MS Office a Windows. Gallu trin a dylunio systemau o fewn Excel ac Access.
Gallu cynllunio a rheoli eich llwyth gwaith eich hun a chydlynu llwyth gwaith tîm, gan sicrhau bod terfynau amser misol yn cael eu cyrraedd.
Gallu cyfathrebu ag eraill yn hyderus ac yn bendant, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Meddu ar rywfaint o ddycnwch er mwyn cwblhau tasgau ar amser ac i safon, a gwydnwch i ymdopi â thasgau ymestynnol.
Deall y cysyniad o gwsmeriaid mewnol ac allanol a gweithio'n ymatebol i bob cwsmer.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd hefyd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd. Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen pythefnos o’r dyddiad cau, yna’n anffodus ni lwyddoch i gael cyfweliad.