MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADRAN ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL DYFFRYN OGWEN, BETHESDA
(Cyfun 11 - 18; 400 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 1 o Fedi, 2026.
CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 3
Swydd dros dro - tan 31/08/2027 yn y lle cyntaf.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion blaengar a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.
Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos.
Bydd yn ofynnol i chi weithio 39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor Ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (sef £18,430 - £19,909 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mrs Kelly Morgan (Rhif ffôn 01248 600291).
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais ar gael gan Mrs Kelly Morgan, Ysgol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, Bangor, Gwynedd (Rhif Ffôn:01248 600291)
e-bost: rhb@dyffrynogwen.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU; 11YB, DYDD MERCHER, 15FED O ORFFENNAF, 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ynghyd chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi