MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Builth Wells,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: ISR: 18 – 24 (£80,080 - £92,754)
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 06 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth - Ysgol Gymraeg Bob Oed Newydd (Llanfair-ym-Muallt)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: ISR: 18 – 24 (£80,080 - £92,754)
Pennaeth - Ysgol Gymraeg Bob Oed Newydd (Llanfair-ym-Muallt)Swydd-ddisgrifiad
PENNAETH
Ysgol Gymraeg Bob Oed Newydd
(Llanfair-ym-Muallt)
Yn eisiau o: Ionawr 2027 neu'n gynharach
ISR: 18 - 24 (£80,080 - £92,754)
32.5 awr, Parhaol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 06/09/2026 Cyfweliadau: 22 - 23 Medi 2026
Ysgol Gymraeg Bob Oed Newydd Llanfair-ym-Muallt - Cyngor Sir Powys
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol
Mae Cyngor Sir Powys yn bwrw ymlaen â chynllun uchelgeisiol i agor ysgol Gymraeg bob oed newydd yn Llanfair-ym-Muallt ym mis Medi 2027, sy'n nodi cam sylweddol ymlaen o ran ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Canolbarth a De Powys. Bydd y datblygiad hwn yn creu llwybr dysgu di-dor o'r blynyddoedd cynnar i'r ysgol uwchradd, yn cynyddu mynediad i deuluoedd, ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer datblygu'r Gymraeg ar draws yr ardal.
Mae Corff Llywodraethu Dros Dro yr ysgol yn dymuno penodi Pennaeth uchelgeisiol, deinamig a gweledigaethol i arwain sefydlu'r ysgol, ac mae am ddod o hyd i bennaeth a fydd yn:
• arweinydd ysbrydoledig ac arloesol ac yn rheolwr newid effeithiol
• dangos ymrwymiad cryf i addysg Gymraeg a diwylliant Cymru
• canolbwyntio ar welliant parhaus, gan yrru ansawdd a safonau ac ysgogi staff a disgyblion fel ei gilydd
• arwain cyfeiriad strategol a datblygiad yr ysgol
• gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor, y Corff Llywodraethol Dros Dro, ysgolion cynradd sy'n bwydo a lleoliadau blynyddoedd cynnar i hyrwyddo a thyfu'r ysgol, gan gynyddu niferoedd disgyblion a sicrhau ei chynaladwyedd tymor hir
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio efo'r Cyngor a'r Corff Llywodraethol Dros Dro i lunio darpariaeth addysgol newydd sbon ym Mhowys, ac yn gyfle euraidd i chwarae rhan allweddol yn natblygiad pellach addysg cyfrwng Cymraeg yn Llanfair-ym-Muallt a'r ardal gyfagos, gan lunio cyfeiriad yr ysgol wrth iddi dyfu dros y blynyddoedd i ddod. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn allweddol wrth greu sylfaen gadarn ar
gyfer dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, hyrwyddo rhagoriaeth ddwyieithog a chyfoethogi bywydau disgyblion a'r gymuned ehangach.
Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig ac arloesol sydd â hanes profedig o weithredu ar lefel uwch reolaeth, gyda sgiliau arweinyddiaeth, trefniadol a rhyngbersonol strategol a gweithredol sydd wedi'u datblygu'n dda. Byddwch yn ymrwymedig i ddarparu dysgu o ansawdd uchel i bob disgybl ac i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned i ddarparu amgylchedd lle mae staff a disgyblion yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial llawn.
Bydd yr ysgol yn agor ar gyfer disgyblion Derbyn i Flwyddyn 9 ym mis Medi 2027, a bydd grwpiau blwyddyn ychwanegol yn cael eu hychwanegu wrth i'r disgyblion hyn symud drwy'r ysgol, nes iddi ddarparu addysg i ddisgyblion hyd at Flwyddyn 13 yn y pen draw. Bydd yr ysgol wedi'i lleoli ar gampws presennol Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.
Os ydych chi'n angerddol am ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel, yn ymrwymedig i feithrin amgylchedd Cymraeg ffyniannus, ac yn awyddus i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr hyderus, dwyieithog, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dyma hysbyseb ar gyfer swydd Pennaeth lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol. (Cymhwysedd Cymraeg Lefel 5)
Mae croeso i chi gysylltu â Chadeirydd y Corff Llywodraethol - y Cynghorydd Gareth Jones - cllr.gareth.jones1@powys.gov.uk neu Ymgynghorydd Gwella Ysgolion yr Ysgol, Bethan G Jones JonesB441@hwbcymru.net am sgwrs anffurfiol neu i drefnu
ymweliad.
I wneud cais am y rôl, ewch i www.powys.gov.uk neu e-bostiwch
recruitment@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.