MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Dyffryn Aeron, Lampeter,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Parhaol
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: 25,185 *
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Dyffryn Aeron x 2
Cyngor Sir Ceredigion
Cyflog: 25,185 *
Ynglŷn â'r rôlGwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i gynorthwyo gyda disgyblion y Cyfnod Sylfaen. Mae'n hanfodol i feddu ar gymwysterau a/neu brofiad addas yn ymwneud â datblygiad plant. Byddai profiad blaenorolo weithio yn y Dysgu Sylfaen yn fanteisiol iawn ynghyd â dealltwriaeth cyffredinol o ofynion y cwricwlwm. Byddai dealltwriaetho raglenni hyfforddiant perthnasol eraill megis Ymyrraeth Cynnal Sylw, Grwp Iaith, Cyfri Ceredigion, Tric a chlic, a 'Y Daith Ddarllen' yn ddymunol iawn. Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am berson sydd â diddordeb mewn gweithio'n agos gyda'r disgyblion, sy'n meddu ar sgiliaucyfathrebu da a sydd hefyd yn medru gweithio'n effeithiol a hwyliog gyda gweddill tîm yr ysgol.
Dyma gyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau modern o'r radd flaenaf, gyda Chanolfan ADY, Canolfan Iaith ac adnoddau chwaraeon gwych yn rhan o'r campws, mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth, Ms Nia Lloyd Thomas ar 01545 908 908 neu ar ThomasN60@dyffrynaeron.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant