MANYLION.
  • Lleoliad: Nationwide,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Dros dro
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £32,5970- £36,363 y flwyddyn (G06)
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 31 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hyfforddwr Addysg Awyr Agored Ar Ei Liwt ei Hun

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £32,5970- £36,363 y flwyddyn (G06)

Lleoliad gwaith: Canolfannau Nant BH a Phentrellyncymer

Mae gan Wasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Cymru ddwy ganolfan breswyl, Nant BH a Phentrellyncymer, ac mae'n cynnig darpariaeth ddydd ac allgymorth i ysgolion, gwasanaethau ieuenctid a grwpiau eraill ar draws chwe sir Gogledd Cymru hefyd. I alluogi darparu cyrsiau yn ddiogel yn y ddwy Ganolfan, mae staff cyflewni yn ogystal â'r hyfforddwyr dan gontract angen darparu ystod lawn o weithgareddau yn y ddwy Ganolfan.

Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus ddealltwriaeth dda o, ac ymrwymiad i ran addysg awyr agored o fewn dysgu gydol oes. Dylid meddu amrywiaeth o wobrau CLlC, ynghyd â'r gallu i yrru bws mini a threlar. Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cyn I chi wneud cais, cysylltwch â jenny.wilson@conwy.gov.uk

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Mae angen cofrestriad CGA cyn decrau gweithio.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Jenny Wilson, Pennaeth y Canolfannau ( jenny.wilson@conwy.gov.uk / 01492 640735)

Gofynion y Gymraeg:

Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.

Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.