MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Pendalar, Caernarfon,
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Heb ei ddarparu
- Cytundeb: Dros dro
- Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
- Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION ADDYSG ARBENNIG
YSGOL PENDALAR, CAERNARFON
(Arbennig 3 - 19: 121 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Medi, 2026.
ATHRO/ATHRAWES ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
(SWYDD DROS DRO)
Swydd dros dro - hyd at 31/08/2027 yn y lle cyntaf.
Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar i ymgymryd â dyletswyddau addysgu disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£33,731 - £51,942) y flwyddyn ynghyd a lwfans Anghenion Addysgol Arbennig (£2,838 i £5,595 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Deiniol Harries. (Rhif Ffôn 01286 672141)
e-bost: i Deiniol.Harries@pendalar.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir gyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Sophie Eames, Swyddog Busnes, Ysgol Pendalar, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd (Rhif Ffôn: 01286 672141). Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MERCHER 8fed O ORFFENNAF, 2026.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Sicrhau cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion o dan ei g/ofal a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
- Trwy weithio o dan gyfarwyddid y pennaeth a chydweithio a'r UDRh ac athrawon eraill mae'r athro dosbarth yn cyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion.
- Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. e.e. staff, cyllid, offer
- Adnoddau dysgu, arwain cymorthyddion
Prif Ddyletswyddau.
Amodau
Mae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu gynrychiolydd. Yn ychwanegol, mae'n rhesymol disgwyl gweithredu a chwblhau rhai dyletswyddau penodol yn unol â pholisïau'r ysgol.
Gweithredu'r 'Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth'. Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i'w monitro a'u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
Cyfrifoldebau Proffesiynol
- Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd:
- Gwahaniaethu i ystod o ddisgyblion ag anghenion dwys amrywiol.
- Defnyddio strategaethau cyfathrebu a rhyngweithio.
- Dilyn rhaglenni arbenigol.
- Dehongli adroddiadau arbenigol a'u rhoi ar waith.
- Dilyn argymhellion rhaglenni ymddygiad a chyd-weithio gyda'r Arbenigwraig Dysgu Cadarnhaol (ABA) i gefnogi disgyblion.
- Gweithredu o fewn y Ddeddf ADY a Cȏd Ymarfer ADY Cymru.
- Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Tynnu sylw'r person priodol at unrhyw broblem.
- Cynnig addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau'r unigolion.
- Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog disgyblion i gadw'r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn daclus.
- Yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cynllunio rhaglenni gwaith, fel y disgrifir yng Nghwricwlwm Lefel Uchel yr ysgol
- Cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.
- Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysgir.
- Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.
- Sicrhau fod gwersi yn cychwyn ac yn gorffen ar amser a bod y disgyblion yn cael eu derbyn i'r dosbarth a'u hanfon allan dan reolaeth a threfn.
- Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i'w g/ofal hyd eithaf ei allu.
- Cynllunio a gosod profiadau dysgu sy'n cefnogi'r disgyblion i gyrraedd eu deilliannau a thargedau
- Cyfrannu at gyfarfodydd, trafodaethau a threfniadau rheolaeth yn ôl y gofyn i ddatblygu a chydlynu gwaith yr ysgol.
- Cyfrannu at drefniadau'r ysgol ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflawniad disgyblion.
- Cymryd rhan yn nhrefniadau'r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad.
- Ymroi i ddatblygiad proffesiynol sy'n berthnasol i'r swydd a chyfrifoldebau drwy gydol ei g/yrfa.
- Cynghori, arwain a chydweithio â'r pennaeth ag athrawon eraill yn ôl y gofyn mewn perthynas â darparu a datblygu rhaglenni gwaith, deunyddiau addysgu, dulliau asesu a.y.y.b.
- Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff sy'n ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.
- Hunanarfarnu safonau ac arferion dysgu - ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
- Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a'r amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
- Mynychu cyfarfodydd amrywiol ar nosweithiau yn unol â threfniadau'r ysgol.
- Mynychu nosweithiau rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
- Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol o fewn oriau cyfeiriedig.
- Mynychu hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
- Hybu blaenoriaethau Cynllun Datblygu Ysgol presennol.
- Cyfrannu'n bwrpasol i ddatblygu'r ysgol i fod yn ganolfan sy'n cynrychioli'r arferion a'r safonau proffesiynol uchaf.
- Cydweithio'n effeithiol a pharchus fel aelod o dîm proffesiynol.
- Cyfrannu gyda'r Pennaeth i sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.
- Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ddatblygiad proffesiynol ei hun.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau'r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
- Adolygu, diweddaru a gweithredu'r CDU gan ddefnyddio'r system CDUarlein gyda'r disgybl, ei deulu a gweithwyr proffesiynol eraill.
Cysylltiadau:
Bydd y sawl sydd yn y swydd yn:
- rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu yn yr ysgol.
- gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
Amgylchiadau Arbennig. e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
- Gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi