MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Pont y Gof, Botwnnog,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
  • Cyflog: £19,290 - £20,105 y flwyddyn
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 4 (11 awr) a Lefel 2 (20 awr) Ysgol Pont y Gof, Botwnnog

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £19,290 - £20,105 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG
YSGOLION CYNRADD

CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 4 (11 AWR) A CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2 (20 AWR)

YSGOL PONT Y GOF, BOTWNNOG
(Cynradd 3 - 11 oed: 103 o ddisgyblion)

Ysgol Gynradd Wirfoddol dan Reolaeth yr Eglwys yng Nghymru

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (sef £7,385 - £8,011 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster ar gyfer y swydd Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2 a Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 Lefel 2 (sef £11,905 - £12,094 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster ar gyfer y swydd Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2.

Yn eisiau: 1 Medi 2026

Swydd barhaol yw hon.

Oriau gwaith: 31 awr yr wythnos; 11 awr fel Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 4 a 20 awr fel Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2
(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Pholisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Bethan Prys Jones. Rhif Ffôn 01758 730318 e-bost: Bethan.Jones@pontygof.ysgoliongwynedd.cymru

Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Heledd Jones, Cymhorthydd Busnes Ysgolion. Rhif ffon 01758 704100 e-bost: heleddjones3@gwynedd.llyw.cymru

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.

Rhagwelir cynnal cyfweliadau am y swydd hon wythnos yn cychwyn 13 Gorffennaf 2026.

DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD LLUN, 13 GORFFENNAF 2026.

(This is an advertisement for a Learning Support Assistant Level 4 (11 hours) and Learning Support Assistant Level 2 (20 hours) at Ysgol Pont y Gof, Botwnnog for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment

SAFONAU PROFFESIYNOL CCD.pdf

Manylion Person

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 4:

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.

• Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau

• Personoliaeth ddigynnwrf, amyneddgar a hyblyg.

• Parodrwydd i ddysgu'n barhaus

• Person taclus a threfnus sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen ac yn dangos blaengaredd

• Person hunanysgogol gyda'r gallu i weithio'n annibynnol.

• Sgiliau cyfathrebu da a chadarn

• Person brwdfrydig

• Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

• Gallu arddangos arfer effeithiol a pharhaus yn y disgrifyddion perthnasol o fewn 'safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu'.

• NVQ lefel 3 ar gyfer Cymorthyddion addysg neu gymhwyster cyfwerth

• Sgiliau rhifedd/llythrennedd, cyfwerth a lefel 2 o'r fframwaith cymwysterau cenedlaethol.

• Hyfforddiant cymorth cyntaf priodol.

• Hyfforddiant Amddiffyn Plant

DYMUNOL

• Hyfforddiant Llwybr Dysgu i Gymorthyddion Dysgu - 'Darpar CALU'

• Llwybr Dysgu i Gymorthyddion Dysgu- 'Staws CALU'

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

• Profiad helaeth o weithio mewn amgylchedd dysgu gyda phlant o'r oedran priodol.

• Profiad o arwain a chynllunio gwaith grŵp a gwaith dosbarth cyfan

• Profiad o weithio'n annibynnol a gwneud penderfyniadau

• Profiad o reoli gweithgareddau dosbarth a'r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.

DYMUNOL

• Profiad o reolaeth llinell staff

• Profiad o weithio gyda theuluoedd

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

• Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithlon i gefnogi dysgu.

• Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau /côd ymarfer perthnasol a deddfwriaeth berthnasol.

• Dealltwriaeth dda o ddatblygiad a phrosesau dysg plentyn.

• Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o Anghenion Dysgu Ychwanegol

• Deall fframweithiau statudol perthnasol i addysg

• Bod â'r sgiliau angenrheidiol i reoli gweithgareddau dosbarth a'r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.

• Deall a gallu defnyddio ystod o strategaethau i ddelio gydag ymddygiad dosbarth yn ei gyfanrwydd a hefyd anghenion ymddygiad unigol.

• Y gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu yn weithredol.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd

Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2:

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.

• Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm.

• Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau

• Brwdfrydig a hyblyg

• Personoliaeth Ddigynnwrf

• Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

• Sgiliau rhif/llythrennedd da.

• NVQ2 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster cyfwerth, neu yn fodlon ymgymryd â'r cwrs yn dilyn penodiad.

DYMUNOL

• Wedi dilyn hyfforddiant llwybr dysgu i gymorthyddion dysgu - 'Rhaglen Ymsefydlu'

• Hyfforddiant cymorth cyntaf

• Hyfforddiant Amddiffyn Plant

• Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd/ rhifedd

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

• Gweithio gyda phlant o'r oedran priodol neu ofalu amdanynt.

DYMUNOL

• Profiad o weithio gyda grwpiau bychain o blant

• Profiad o waith cynorthwyo mewn dosbarth

• Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

• Deunydd effeithlon o TGaCh

• Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da

• Y gallu i sefydlu a chynnal perthynas dda gyda eraill.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon e-bost ac adroddiadau byr, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwyddi'r maes gwaith. (Bydd angen gwirio cyn eu hanfon allan).

Swydd Ddisgrifiad
Cymhorthydd Cegnogaeth Dysgu Lefel 4:

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym ni yn ei wneud.

• Cyflenwi gwaith proffesiynol athro/athrawes drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt.

• Rheoli a datblygu maes arbenigol o fewn yr ysgol.

• Goruchwylio cymorthyddion addysgu eraill, yn cynnwys dyrannu gwaith a hyfforddi ( fel bo'n briodol).

• Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a pobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer

• Goruchwylio cymorthyddion addygu eraill fel bo'n briodol.

Prif Ddyletswyddau.

• Cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu dymor byr ar gyfer dosbarthiadau cyfan. Monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.

• Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau, ayyb.

• Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu'r disgyblion.

• Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda'r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.

• Sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu.

• Rheoli ymddygiad yn adeiladol yn unol â threfn yr ysgol

• Datblygu a gweithredu Cynlluniau amrywiol

• Hyrwyddo cynnwys a derbyn pob disgybl o fewn y dosbarth

• Cefnogi'r disgyblion yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.

• Annog y disgyblion i ryngweithio a gweithio'n gydweithredol

• Ddefnyddio amrywiol strategaethau i hybu annibyniaeth

• Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.

• Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.

• Cynllunio nodau addysgu a dysgu heriol ar gyfer gwersi.

• Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau a gytunwyd arnynt, drwy ystod o strategaethau asesu a monitro.

• Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad mewn gwersi/gweithgareddau.

• Gweithio o fewn polisi disgyblaeth sefydledig i ragweld a rheoli ymddygiad yn adeiladol, gan hybu hunanreolaeth ac annibyniaeth.

• Datblygu perthynas weithio adeiladol gyda rhieni, a chyfrannu tuag at gyfarfodydd gyda rhieni.

• Gweinyddu ac asesu/marcio profion a chefnogi arholiadau.

• Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol

• Defnyddio TGaCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.

• Cynghori ar ddefnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.

• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i, gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder.

• Cyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill.

• Cyfrannu at adnabod a gweithredu gweithgareddau dysgu priodol y tu allan i'r ysgol sy'n cadarnhau ac yn ymestyn gwaith yn y dosbarth.

• Cyfrannu tuag at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.

• Cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg.

Cyfrifoldebau Goruchwylio Lle bo'n Briodol

• Goruchwylio cymorthyddion addysgu eraill fel bo'n briodol

• Cysylltu rhwng rheolwyr/staff addysgu a chymorthyddion addysgu fel bo'n briodol

• Cynnal cyfarfodydd tîm rheolaidd gyda staff a oruchwylir.

• Dan gyfarwyddyd y Pennaeth os yn briodol, ymgymryd ag hyfforddi/mentora ar gyfer cymorthyddion addysgu eraill.

Cyffredinol

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol â safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol â chais y Rheolwr.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor/Ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr ysgol/ Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr ysgol/ Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2:

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol.

• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.

• Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn

Prif Ddyletswyddau.

• Goruchwylio a darparu cefnogaeth ar gyfer disgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.

• Gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol- yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.

• Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.

• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.

• Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes.

• Sefydlu perthynas dda gyda'r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.

• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.

• Gosod disgwyliadau uchel a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.

• Hwyluso cynnwys a derbyn pob disgybl o fewn y dosbarth, gan hybu annibyniaeth.

• Dan arweiniad yr athro/athrawes, darparu adborth i ddisgyblion.

• Cydweithio gyda'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol.

• Cynorthwyo i glirio'r dosbarth a chynorthwyo gydag arddangos gwaith y disgyblion.

• Sicrhau adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes, gan adrodd ar ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu, cynnydd, a lles disgyblion

• Hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.

• Cefnogi strategaethau dysgu amrywiol dan arweiniad athro/athrawes.

• Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu.

• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.

• Cysylltu'n broffesiynol â rhieni, gofalwyr dan arweiniad yr athro/athrawes.

• Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.

• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder.

• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.

• Mynychu cyfarfodydd perthnasol.

• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.

• Cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg.

Cyffredinol

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol ar Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol â chais y Rheolwr.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor/Ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr ysgol/ Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr ysgol/ Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi