MANYLION.
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: 33,731 - 51,942 *
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes (Cyfnod Sylfaen) - Ysgol Gynradd Gatholig Padarn Sant

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 33,731 - 51,942 *

Ynglŷn â'r rôl
Athro/Athrawes Dosbarth Meithrin, Dysgu Sylfaen, yn ofynnol ar gyfer 01 Ionawr 2027.

Rhan-amser: 16.2 awr yr wythnos (tymor penodol - dau dymor yn unig - Tymor Gwanwyn ac yr Haf nes 31 Awst 2027.

Ystyrir rhannu swydd ar gyfer y rôl hon. Patrwm oriau i'w drafod.

Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac ymroddedig a fydd yn gyfrifol am gynnal a chodi safonau disgyblion a chyfrannu at ddatblygiad parhaus yr ysgol hapus a gofalgar hon. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth a dealltwriaeth gref o egwyddorion y Dysgu Sylfaen, a'r gallu i arwain ar feysydd penodol o'r cwricwlwm.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, a byddai'r gallu a'r brwdfrydedd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n effeithiol gyda thîm profiadol ac ymroddedig.

Y Cwricwlwm Addysg Grefyddol yn y Dysgu Sylfaen sydd wrth wraidd y cwricwlwm a'r dysgu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dilyn cwricwlwm y Cyfeiriadur Addysg Grefyddol (RED), cynlluniau Addysg Grefyddol a Rhywioldeb (AGR) a gymeradwywyd gan yr Esgobaeth a'r Cyfeiriadur Gweddi a Litwrgi.

Mae Padarn Sant yn croesawu ceisiadau gan Gatholigion ond mae croeso i ymgeiswyr o bob ffydd neu ddim ffydd wneud cais.

Dylai eich datganiad personol yn y ffurflen gais fod yn ddwyieithog.

Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol am y swydd, mae croeso i chi gysylltu â'r pennaeth, Enid Brophy ar 01970 630632 neu drwy e-bost at: BrophyE2@hwbcymru.net

Llunio rhestr fer: Dydd Iau 9fed Gorffennaf

Cyfweliadau: Dydd Llun 13eg Gorffennaf neu ddydd Mawrth 14eg Gorffennaf.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere... Darllen mwy